Back
Datganiad ar Brotestiadau Gwrthryfel Difodiant

 

"Mae'r Cyngor wedi cael gwybod y gallai fod nifer o brotestiadau Gwrthryfel Difodiant gael eu cynnal yng Nghaerdydd o heddiw, Awst 28, hyd at Ddydd Sadwrn, Medi 5. Ni all yr awdurdodau atal pobl rhag protestio, gan fod ganddynt yr hawl gyfreithiol i brotestio'n heddychlon. Fodd bynnag, byddwn yn ei gwneud yn glir i Gwrthryfel Difodiant ei bod yn hanfodol bwysig bod cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu dilyn gan y protestwyr bob amser.

"Mae'r trefnwyr wedi cysylltu â'r Cyngor yn ffurfiol i ofyn a allant ddefnyddio Parc Bute, Caeau Llandaf a/neu lawnt Neuadd y Ddinas fel safle gwersyll.  Gwrthodwyd y cais hwn oherwydd y pryderon sydd gennym am y risgiau posibl y gallai gwersylloedd o'r fath eu creu ar gyfer trosglwyddo COVID-19, yn ogystal â sicrhau fod ein parciau ar gael ac yn ddiogel i drigolion eu defnyddio. 

 

"Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli efallai na fyddwn yn gallu atal y grŵp rhag sefydlu gwersyll ac, er bod y pwerau gennym i gael gwared ar wersyllwyr anghyfreithlon o'n parciau, yn dilyn trafodaethau gyda'r heddlu, teimlir efallai nad cael gwared ar unwaith yw'r opsiwn gorau ar hyn o bryd oherwydd y gallai arwain at sefyllfa sy'n fwy tebygol o helpu i ledaenu'r feirws.

 

"Mae trefniadau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod rhwystrau, bolardiau a gatiau yn cael eu cloi i atal cerbydau rhag gyrru i ar i'r parcdir. Bydd parcmyn hefyd yn cynnal patrolau rheolaidd a bydd yr holl wybodaeth yn cael ei throsglwyddo'n ôl i ystafell reoli amlasiantaeth a gaiff ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

 

"Mae'n amlwg bod y Cyngor yn pryderu am risg trosglwyddo'r feirws, yn enwedig ar adeg pan fo cyfraddau heintio'n cynyddu ledled y Deyrnas Gyfunol. Rydym hefyd yn pryderu bod y protestiadau'n digwydd wrth i ysgolion baratoi i ailagor yn y ddinas.  Dyna pam y gofynon ni i Gwrthryfel Difodiant ailystyried eu cynlluniau protest.

 

"Gyda'r cyfan uchod mewn golwg, bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r heddlu i fonitro'r protestiadau ac i sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn gan Gwrthryfel Difodiant. Ein nod yw galluogi'r hawl gyfreithiol i brotestio'n heddychlon o fewn y gyfraith ac o fewn y ddeddfwriaeth COVID-19 bresennol."