Back
Hwb o £500,000 ar gyfer technoleg i gynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol
Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 i Gyngor Caerdydd i wella’r seilwaith sy’n cludo band eang ffibr optig o amgylch y ddinas, yn ôl cyhoeddiad gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth.

Mae’r gwaith yng Nghaerdydd, fydd yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, yn ychwanegol i’r buddsoddiad parhaus yn y rhwydwaith pibelli ar hyd coridor yr M4, gan ddod â manteision ledled rhanbarth De Cymru.

Ledled Cymru, gall dros 95 y cant o adeiladau ddefnyddio band eang cyflym iawn yn dilyn rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd cynllun pellach ar gyfer band eang ffibr cyflymder gigabit yn digwydd yn yr ardaloedd hynny sydd ddim yn gallu ei dderbyn eto, gydag estyniad diweddar yn canolbwyntio ar ardaloedd ble y mae llai na 90 y cant yn derbyn y gwasanaeth. 

Mae busnesau a sefydliadau yn sector y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd, sy’n datblygu’n gyflym, wedi bod yn cydweithio’n agos â Chyngor Caerdydd am y 18 mis diwethaf, a gyda’i gilydd, maent wedi nodi yr angen i’r ddinas ehangu ei rhwydwaith pibelli ffibr optig. Mae hyn er mwyn cynyddu capasiti ‘Rhwydwaith Creadigol Caerdydd’ sydd wedi anelu at ddarparu’r cyflymder band eang gigabit sydd ei angen ar y sector.

Yn ogystal â helpu i fod yn sail i gynlluniau’r cyngor i sicrhau bod diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd yn ganolog i ddatblygiad y ddinas, byddai gwelliannau i’r rhwydwaith pibelli hefyd yn golygu manteision i gynlluniau teithio llesol y ddinas – gan alluogi’r posibilrwydd o gasglu data y gellid ei ddefnyddio i gyfrifo llif y traffig, nifer yr ymwelwyr ar droed a’r defnydd o feiciau yn ogystal â monitro ansawdd yr aer.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Bydd y cyllid rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn gwella’r seilwaith ffibr gan alluogi cyflymder band eang gigabit yn y ddinas. Bydd hyn yn helpu Cyngor Caerdydd gyda’r cynlluniau sydd ganddynt i ddarparu band eang cyflymach ar gyfer y diwydiannau creadigol ac i fonitro trafnidiaeth ar draws y ddinas fel y gallant nodi’n union ble y gellir gwneud gwelliannau i annog teithio llesol.

"Trwy wella ac ehangu’r system pibelli ffibr presennol yn y ddinas gallwn wneud cyfraniad pwysig at gynlluniau i gefnogi busnesau.

"Mewn mannau eraill yng Nghymru, bydd y cynllun gydag Openreach, sy’n rhan o becyn o fesurau i ddod â band eang cyflymach i gymunedau, yn dod â band eang cyflymder gigabit i adeiladau. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu at gynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU, gan ei wneud y cynllun mwyaf hael yn y DU."

Meddai Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:

"Mae Caerdydd eisoes wedi ei sefydlu fel un o ganolfannau creadigol y DU, ac mae’r sector yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn cyfrannu dros £1 biliwn i’r economi bob blwyddyn. Rydyn ni am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a helpu’r sector barhau i ffynnu, ac un ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy wella seilwaith ddigidol y ddinas.

"Mae mwy i’w wneud, ond bydd y cyllid pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i ddechrau darparu’r cysylltedd sydd ei angen gan y diwydiant a bydd hefyd yn cefnogi ein gwaith parhaus i ddefnyddio technoleg ‘smart’ i wella bywydau bob dydd y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd."

Cafodd y cyllid ei groesawu gan fusnesau yn y sector. Meddai Rich Moss, Rheolwr-gyfarwyddwr Gorilla TV:

"Fel cwmni Ôl-gynhyrchu Teledu mwyaf Cymru, mae Gorilla TV yn croesawu yr hwb yma i dechnoleg gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymeradwyo Cyngor Caerdydd am flaenoriaethu’r anghenion hyn yn y seilwaith.

"Nid yw cysylltedd wedi bod mor berthnasol a hanfodol erioed i’n busnes. Nid yn unig mae’r seilwaith hwn yn angenrheidiol i fusnes, ond gyda hyn daw’r cyfle am ddoniau mwy amrywiol a chynhwysol i arddangos ein hallbwn creadigol i farchnadoedd y byd, gan hybu ein diwydiant a’r economi yng Nghymru.”