Back
Gofyn i ddisgyblion Ysgol Bro Edern hunanynysu wrth i achos o'r Covid gael ei gadarnhau
Gofynnwyd i 30 o ddisgyblion Ysgol Bro Edern hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol ddydd Sul (6 Medi).

Nodwyd bod y disgyblion o Flwyddyn 7 wedi bod mewn cysylltiad ag achos o Covid-19 yn yr ysgol a gofynnwyd iddynt aros gartref er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r y feirws i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Mae gwaith glanhau trylwyr wedi'i gwblhau yn yr ardaloedd o'r ysgol a ddefnyddir gan y dosbarth.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Iwan Pritchard: "Yn dilyn y cadarnhad bod disgybl yn yr ysgol wedi cael prawf Covid-19 cadarnhaol, aethom ati cyn gynted â phosibl, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gysylltu â phob disgybl yn swigen ddosbarth y disgybl dan sylw. Er mwyn bod yn ofalus, mae gwaith glanhau ychwanegol, ar ben y drefn lanhau ddyddiol sydd gennym ar waith, hefyd wedi'i gwblhau.

"Oherwydd y gweithdrefnau sydd gennym ar waith, sy'n cyfyngu ar y cyswllt rhwng gwahanol ddosbarthiadau ac yn logio cynlluniau eistedd ar gyfer pob gwers, rydym wedi gallu cyfyngu ar nifer y disgyblion sydd angen hunanynysu ac nid oes angen i rieni neu ddisgyblion na chysylltwyd â hwy, hunanynysu neu fod yn rhy bryderus."

"Gan eu bod wedi dilyn y rheol ymbellhau cymdeithasol o 2 fetr, neu wedi gwisgo gorchudd wyneb pan nad oedd hynny'n bosibl, nid oes angen i unrhyw staff yn yr ysgol hunanynysu."

"Bydd staff yr ysgol yn parhau i gadw llygaid barcud am unrhyw ddisgyblion sy'n dangos symptomau ac yn rhoi camau priodol ar waith os ydynt yn amau y gallai disgybl gael Covid-19."

Cysylltwyd â rhieni'r holl ddisgyblion dan sylw drwy lythyr a neges destun nos Sul.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diogelwch disgyblion yn ein hysgolion o'r pwys mwyaf ac mae gweithdrefnau ar waith i sicrhau eu bod mor cael eu hamddiffyn gymaint â phosibl, ond mae hyn yn ein hatgoffa'n glir nad yw Covid-19 wedi diflannu a byddwn yn annog pob rhiant i fod yn wyliadwrus a sicrhau nad yw eu plant yn mynd i'r ysgol os ydynt yn datblygu symptomau."