Back
5 bar yng nghanol dinas Caerdydd yn cael rhybuddion gwella diogelwch Covid-19.
Cafodd pum bar poblogaidd yng nghanolfan Caerdydd hysbysiadau gwella gan swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir y penwythnos hwn am fethu â chydymffurfio â mesurau iechyd a diogelwch Covid-19 a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rhoddwyd hysbysiadau i Coyote Ugly a Peppermint ar Heol yr Eglwys Fair, Mocka Lounge ar Lôn y Felin, a Rum and Fizz, a Gin and Juice ar y Stryd Fawr, gan roi 48 awr iddynt i wneud newidiadau i’r ffordd maent yn gweithredu. 

Os na wneir y gwelliannau angenrheidiol, gallai’r Cyngor gyflwyno hysbysiadau cau lleoliadau o dan Reoliadau Diogelu Data (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: “Cyfrifoldeb busnesau yw sicrhau y cynhelir ymbellhau cymdeithasol ac y gall ei hadeiladau gael eu defnyddio mewn ffordd sy’n ddiogel i gwsmeriaid a staff sy’n lleihau’r posibilrwydd o Covid-19 yn lledaenu.”

“Mae sicrhau bod y canol y ddinas yn ddiogel i ymweld ag ef yn flaenoriaeth ac mae sefyllfaoedd fel y rhai a welwyd ar Heol Eglwys Fair ar y penwythnos yn gwbl annerbyniol.

“Ni ddylai busnesau amau na fyddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw safle nad yw’n gweithredu mewn ffordd ddiogel. Bydd swyddogion yn dychwelyd i’r busnesau y rhoddwyd rhybuddion gwella iddynt, ac yn ymweld â rhai eraill ledled y ddinas, ac ni fyddwn yn petruso cyn cyflwyno hysbysiadau cau os bydd angen.”

Ymwelwyd â Coyote Ugly gan swyddogion ddydd Sadwrn ar ôl i ffilm fideo ddod i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cwsmeriaid yn ciwio i fynd i mewn i’r lleoliad yn methu ymbellhau cymdeithasol. Ar ôl cyflwyno hysbysiad gwella ddydd Sadwrn, gweithredodd y lleoliad yn gyflym i ddatrys nifer o faterion a nodwyd ac mae’r busnes yn parhau i weithio gyda swyddogion er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r Hysbysiad a’r rheoliadau yn y dyfodol. Trefnwyd rhagor o arolygiadau cydymffurfio ar gyfer yr wythnos ho.

Gall aelodau’r cyhoedd sydd â phryderon am fusnes ei adrodd trwy ein canolfan gyswllt Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088

https://www.srs.wales/en/coronavirus/improvement-notices-served.aspx

 LLun gan: Lewis Beecham