Back
Cyhoeddi cynllun i atal COVID-19 rhag lledaenu yng Nghaerdydd a'r Fro

08/09/20

Mae cynllun wedi'i gyhoeddi yn nodi sut y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn parhau i gydweithio i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Mae'r cynllun yn nodi sut y caiff unrhyw gynnydd mewn achosion a chlystyrau lleol ei nodi, natur yr ymateb lleol, a sut y cytunir ar benderfyniadau ac y cymerir camau pe bai argyfwng arall.

Mae 21 o fesurau ar wahân yn cael eu monitro gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro mewn ymgais i nodi arwyddion cynnar o gynnydd sydyn mewn achosion.  Os nodir tueddiadau neu batrymau sy'n peri pryder drwy'r mecanwaith hwn, mae panel o arbenigwyr wrth law i adolygu'r data ac argymell mesurau a allai helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Mae'r cynllun wedi'i gyhoeddi wrth i ffigurau newydd ddangos bod nifer yr achosion yn parhau i godi yn y rhanbarth. 

Nodwyd bod lleoliadau addysgol, swyddfeydd, lleoliadau gofal iechyd, ffatrïoedd di-fwyd, ardaloedd arfordirol, ac economi'r nos i gyd yn destun goruchwyliaeth glos gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Roeddem wastad yn gwybod wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ledled Cymru ac wrth i fwy o sefydliadau ddechrau ailagor y byddai'r risg o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned yn cynyddu.

"Yn y rhanbarthau mwyaf poblog y mae'r risg uchaf o hyd, ac mae hyn yn sicr yn berthnasol i'r brifddinas a Bro Morgannwg. Am y rheswm hwn mae'r tri phartner wedi bod yn gweithio mor agos i baratoi cynllun cynhwysfawr ar gyfer atal ac ymateb i'r feirws.

"Mae safleoedd trwyddedig yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Caerdydd a'r Fro ond gallai bariau a thafarndai yn arbennig fod yn destun pryder os nad yw cwsmeriaid yn dilyn y canllawiau ar grwpiau aelwyd ac ymbellhau cymdeithasol."

Dywedodd Len Richards, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd y Brifysgol:  "Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gleifion yn cael gofal critigol am salwch sy'n gysylltiedig â Covid-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac, ym mis Awst, gwelwyd y diwrnod cyntaf ers 15 Mawrth heb unrhyw achos positif o Covid-19 yn holl gartrefi gofal y rhanbarth.

"Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â'r risg sydd ynghlwm wrth y feirws. Mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn parhau i ddilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol, yn golchi dwylo'n rheolaidd a, phan nad yw'n bosib cadw ar wahân, yn gwisgo masg.  Mae bob amser risg o drosglwyddo'r feirws mewn lleoliadau gofal prysur ac felly rydym yn adolygu'r mesurau sydd ar waith yn gyson i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl."

Yn rhanbarth Caerdydd a'r Fro mae'r nifer uchaf o ddisgyblion a myfyrwyr yng Nghymru a'r ysbyty fwyaf yng Nghymru (Ysbyty Athrofaol Cymru). Mae hefyd yn gartref i lawer o weithleoedd mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol wedi nodi, yn gwbl briodol, fod gweithleoedd mawr yn debygol iawn o fod yn ffynhonnell ar gyfer trosglwyddo'r feirws. Mae ffatrïoedd â llinellau cynhyrchu prysur a chyflym a pheiriannau swnllyd sy'n gwneud i bobl weiddi neu sefyll yn agos at ei gilydd yn peri risg amlwg ac mae defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol yn gywir yn y lleoliadau hyn yn bwysig iawn.

"Gall swyddfeydd hefyd fod yn risg o ran lledaenu'r feirws. Mae'r rhain fel arfer yn fannau dan do gyda llif aer cyfyngedig a llawer o bobl, ac maent yn amgylchedd lle gall pobl ymlacio'n ddigon hawdd ac anghofio dilyn y canllawiau ar gadw pellter."

Nid yw'r canllawiau iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi newid. Mae cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb yn parhau'n allweddol i atal trosglwyddiad Covid-19. Yn ddelfrydol, dim ond gyda phobl o'u cartrefi eu hunain y dylai pobl gymysgu, a dylid glynu'n llym wrth y rheol swigen 4 aelwyd. Yn bwysicaf oll, rhaid i unrhyw un sy'n arddangos unrhyw un o'r tri phrif symptom - peswch newydd, tymheredd, neu golli blas neu arogl - gael prawf.

I ddarllen y cynllun yn llawn, cliciwch yma:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/files/Cardiff-and-Vale-Covid-19-Prevention-and-Response-Plan-v1.1-21.08.2020.pdf