Back
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd: 8 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n ymdrin â: cynllun Caerdydd a'r Fro i atal trosglwyddo COVID-19; gofyn i rai o Ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath ac Ysgol Bro Edern hunanynysu; a chyflwyno hysbysiadau gwella diogelwch COVID-19 i fariau canol y ddinas.

Mae COVID-19 ar gynnydd yng Nghaerdydd.

Gwnewch eich rhan er mwyn ein helpu i arafu lledaeniad yr haint.

#DiogeluCymru

 

Cyhoeddi cynllun i atal COVID-19 rhag lledaenu yng Nghaerdydd a'r Fro

Mae cynllun wedi'i gyhoeddi yn nodi sut y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn parhau i gydweithio i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Mae'r cynllun yn nodi sut y caiff unrhyw gynnydd mewn achosion a chlystyrau lleol ei nodi, natur yr ymateb lleol, a sut y cytunir ar benderfyniadau ac y cymerir camau pe bai argyfwng arall.

Mae 21 o fesurau ar wahân yn cael eu monitro gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro mewn ymgais i nodi arwyddion cynnar o gynnydd sydyn mewn achosion.  Os nodir tueddiadau neu batrymau sy'n peri pryder drwy'r mecanwaith hwn, mae panel o arbenigwyr wrth law i adolygu'r data ac argymell mesurau a allai helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Mae'r cynllun wedi'i gyhoeddi wrth i ffigurau newydd ddangos bod nifer yr achosion yn parhau i godi yn y rhanbarth. 

Nodwyd bod lleoliadau addysgol, swyddfeydd, lleoliadau gofal iechyd, ffatrïoedd di-fwyd, ardaloedd arfordirol, ac economi'r nos i gyd yn destun goruchwyliaeth glos gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Roeddem wastad yn gwybod wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ledled Cymru ac wrth i fwy o sefydliadau ddechrau ailagor y byddai'r risg o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned yn cynyddu.

"Yn y rhanbarthau mwyaf poblog y mae'r risg uchaf o hyd, ac mae hyn yn sicr yn berthnasol i'r brifddinas a Bro Morgannwg. Am y rheswm hwn mae'r tri phartner wedi bod yn gweithio mor agos i baratoi cynllun cynhwysfawr ar gyfer atal ac ymateb i'r feirws.

"Mae safleoedd trwyddedig yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Caerdydd a'r Fro ond gallai bariau a thafarndai yn arbennig fod yn destun pryder os nad yw cwsmeriaid yn dilyn y canllawiau ar grwpiau aelwyd ac ymbellhau cymdeithasol."

Dywedodd Len Richards, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd y Brifysgol:  "Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gleifion yn cael gofal critigol am salwch sy'n gysylltiedig â Covid-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac, ym mis Awst, gwelwyd y diwrnod cyntaf ers 15 Mawrth heb unrhyw achos positif o Covid-19 yn holl gartrefi gofal y rhanbarth.

"Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â'r risg sydd ynghlwm wrth y feirws. Mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn parhau i ddilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol, yn golchi dwylo'n rheolaidd a, phan nad yw'n bosib cadw ar wahân, yn gwisgo masg.  Mae bob amser risg o drosglwyddo'r feirws mewn lleoliadau gofal prysur ac felly rydym yn adolygu'r mesurau sydd ar waith yn gyson i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl."

Yn rhanbarth Caerdydd a'r Fro mae'r nifer uchaf o ddisgyblion a myfyrwyr yng Nghymru a'r ysbyty fwyaf yng Nghymru (Ysbyty Athrofaol Cymru). Mae hefyd yn gartref i lawer o weithleoedd mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol wedi nodi, yn gwbl briodol, fod gweithleoedd mawr yn debygol iawn o fod yn ffynhonnell ar gyfer trosglwyddo'r feirws. Mae ffatrïoedd â llinellau cynhyrchu prysur a chyflym a pheiriannau swnllyd sy'n gwneud i bobl weiddi neu sefyll yn agos at ei gilydd yn peri risg amlwg ac mae defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol yn gywir yn y lleoliadau hyn yn bwysig iawn.

"Gall swyddfeydd hefyd fod yn risg o ran lledaenu'r feirws. Mae'r rhain fel arfer yn fannau dan do gyda llif aer cyfyngedig a llawer o bobl, ac maent yn amgylchedd lle gall pobl ymlacio'n ddigon hawdd ac anghofio dilyn y canllawiau ar gadw pellter."

Nid yw'r canllawiau iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi newid. Mae cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb yn parhau'n allweddol i atal trosglwyddiad Covid-19. Yn ddelfrydol, dim ond gyda phobl o'u cartrefi eu hunain y dylai pobl gymysgu, a dylid glynu'n llym wrth y rheol swigen 4 aelwyd. Yn bwysicaf oll, rhaid i unrhyw un sy'n arddangos unrhyw un o'r tri phrif symptom - peswch newydd, tymheredd, neu golli blas neu arogl - gael prawf.

I ddarllen y cynllun yn llawn, cliciwch yma:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/files/Cardiff-and-Vale-Covid-19-Prevention-and-Response-Plan-v1.1-21.08.2020.pdf

 

Gofyn i rai o Ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath ac Ysgol Bro Edern hunanynysu

Gofynnwyd i 60 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol.

Nodwyd bod y disgyblion o Flwyddyn 6 wedi bod mewn cysylltiad â rhywun y cadarnhawyd bod Covid-19 arno yn yr ysgol a gofynnwyd iddynt aros gartref er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Bydd mwy o lanhau heddiw yn ardaloedd yn yr ysgol a ddefnyddiodd y grŵp blwyddyn hwnnw.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Jonathan Keohane: "Yn dilyn cadarnhad yn hwyr neithiwr bod un o'n disgyblion wedi cael canlyniad prawf Covid-19 positif, gweithredom yn unol ag arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn gynted â phosibl a rhoi gwybod i rieni pob disgybl a fu mewn cysylltiad agos â'r disgybl dan sylw."

"Diolch i'r gweithdrefnau cryf sydd gennym ar waith, mae nifer ein disgyblion mae angen iddyn nhw hunanynysu wedi'u cyfyngu i 60 o ddisgyblion mewn un grŵp blwyddyn ac nid yw'n ofynnol i unrhyw staff hunanynysu.

"Rydym eisoes wedi gweithredu gwell trefnau glanhau ond fel rhagofal mae gwaith glanhau ychwanegol hefyd yn digwydd yn yr ysgol."

"Mae cymuned ysgol gref ym Mharc y Rhath ac rwy'n siŵr y bydd rhywfaint o bryder dealladwy yn sgil y newyddion hyn, ond hoffwn dawelu meddwl ein holl rieni, ac yn enwedig ein disgyblion, drwy ddweud ein bod yn rhoi sylw craff iawn i'r cyngor a gawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Cyngor i sicrhau bod y potensial ar gyfer unrhyw drosglwyddo pellach yn cael ei leihau a bod yr ysgol yn parhau'n ddiogel."

"Bydd staff yn parhau'n wyliadwrus am unrhyw ddisgyblion sy'n dangos symptomau ac yn rhoi camau priodol ar waith os ydynt yn amau bod Covid-19 ar ddisgybl."

Gofynnwyd i 30 o ddisgyblion Ysgol Bro Edern hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol ddydd Sul (6 Medi).

Nodwyd bod y disgyblion o Flwyddyn 7 wedi bod mewn cysylltiad ag achos o Covid-19 yn yr ysgol a gofynnwyd iddynt aros gartref er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r y feirws i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Mae gwaith glanhau trylwyr wedi'i gwblhau yn yr ardaloedd o'r ysgol a ddefnyddir gan y dosbarth.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Iwan Pritchard: "Yn dilyn y cadarnhad bod disgybl yn yr ysgol wedi cael prawf Covid-19 cadarnhaol, aethom ati cyn gynted â phosibl, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gysylltu â phob disgybl yn swigen ddosbarth y disgybl dan sylw. Er mwyn bod yn ofalus, mae gwaith glanhau ychwanegol, ar ben y drefn lanhau ddyddiol sydd gennym ar waith, hefyd wedi'i gwblhau.

"Oherwydd y gweithdrefnau sydd gennym ar waith, sy'n cyfyngu ar y cyswllt rhwng gwahanol ddosbarthiadau ac yn logio cynlluniau eistedd ar gyfer pob gwers, rydym wedi gallu cyfyngu ar nifer y disgyblion sydd angen hunanynysu ac nid oes angen i rieni neu ddisgyblion na chysylltwyd â hwy, hunanynysu neu fod yn rhy bryderus."

"Gan eu bod wedi dilyn y rheol ymbellhau cymdeithasol o 2 fetr, neu wedi gwisgo gorchudd wyneb pan nad oedd hynny'n bosibl, nid oes angen i unrhyw staff yn yr ysgol hunanynysu."

"Bydd staff yr ysgol yn parhau i gadw llygaid barcud am unrhyw ddisgyblion sy'n dangos symptomau ac yn rhoi camau priodol ar waith os ydynt yn amau y gallai disgybl gael Covid-19."

Cysylltwyd â rhieni'r holl ddisgyblion dan sylw drwy lythyr a neges destun nos Sul.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diogelwch disgyblion yn ein hysgolion yn flaenoriaeth ac mae gweithdrefnau ar waith i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl, ond gydag angen i ddisgyblion mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd bellach hunanynysu, mae hyn yn ein hatgoffa'n glir nad yw Covid-19 wedi diflannu.

"Byddwn yn annog pob rhiant i barhau'n wyliadwrus a sicrhau nad yw eu plant yn mynd i'r ysgol os ydynt yn datblygu symptomau, a gofynnwn i bob preswylydd, rhiant neu berson arall, helpu i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru."

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

 

Chyflwyno hysbysiadau gwella diogelwch COVID-19 i fariau canol y ddinas

Cafodd pum bar poblogaidd yng nghanolfan Caerdydd hysbysiadau gwella gan swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir y penwythnos hwn am fethu â chydymffurfio â mesurau iechyd a diogelwch Covid-19 a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rhoddwyd hysbysiadau i Coyote Ugly a Peppermint ar Heol yr Eglwys Fair, Mocka Lounge ar Lôn y Felin, a Rum and Fizz, a Gin and Juice ar y Stryd Fawr, gan roi 48 awr iddynt i wneud newidiadau i'r ffordd maent yn gweithredu. 

Os na wneir y gwelliannau angenrheidiol, gallai'r Cyngor gyflwyno hysbysiadau cau lleoliadau o dan Reoliadau Diogelu Data (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Cyfrifoldeb busnesau yw sicrhau y cynhelir ymbellhau cymdeithasol ac y gall ei hadeiladau gael eu defnyddio mewn ffordd sy'n ddiogel i gwsmeriaid a staff sy'n lleihau'r posibilrwydd o Covid-19 yn lledaenu."

"Mae sicrhau bod y canol y ddinas yn ddiogel i ymweld ag ef yn flaenoriaeth ac mae sefyllfaoedd fel y rhai a welwyd ar Heol Eglwys Fair ar y penwythnos yn gwbl annerbyniol.

"Ni ddylai busnesau amau na fyddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw safle nad yw'n gweithredu mewn ffordd ddiogel. Bydd swyddogion yn dychwelyd i'r busnesau y rhoddwyd rhybuddion gwella iddynt, ac yn ymweld â rhai eraill ledled y ddinas, ac ni fyddwn yn petruso cyn cyflwyno hysbysiadau cau os bydd angen."

Ymwelwyd â Coyote Ugly gan swyddogion ddydd Sadwrn ar ôl i ffilm fideo ddod i'r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cwsmeriaid yn ciwio i fynd i mewn i'r lleoliad yn methu ymbellhau cymdeithasol. Ar ôl cyflwyno hysbysiad gwella ddydd Sadwrn, gweithredodd y lleoliad yn gyflym i ddatrys nifer o faterion a nodwyd ac mae'r busnes yn parhau i weithio gyda swyddogion er mwyn sicrhau cydymffurfiad â'r Hysbysiad a'r rheoliadau yn y dyfodol. Trefnwyd rhagor o arolygiadau cydymffurfio ar gyfer yr wythnos ho.

Gall aelodau'r cyhoedd sydd â phryderon am fusnes ei adrodd trwy ein canolfan gyswllt Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088

https://www.srs.wales/en/coronavirus/improvement-notices-served.aspx