Back
Gwiriadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas


11/09/20
Bydd swyddogion trwyddedu o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnal archwiliadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas heno a thros y penwythnos.

Mae gan bob lleoliad gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl sy'n bwyta neu'n yfed yn ei sefydliad yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol. Rhaid i brosesau fod ar waith i sicrhau bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn a rhaid i system dracio ac olrhain fod ar waith hefyd, gan gasglu enwau a rhifau ffôn cwsmeriaid.

Bydd swyddogion y Cyngor yn ymweld â busnesau i sicrhau:

  • Bod systemau ciwio y tu allan i fariau a bwytai ar waith i sicrhau y dilynir mesurau ymbellhau cymdeithasol
  • Bod y byrddau, y tu mewn a'r tu allan, yn ddau fetr oddi wrth ei gilydd
  • Bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â phobl nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau, boed hynny o ran ymbellhau cymdeithasol neu gymdeithasu â phobl y tu allan i'w teulu estynedig, neu eu 'swigen'
  • Mae prosesau ar waith i amddiffyn staff.

Bydd tîm sŵn y tu allan i oriau y Cyngor hefyd yn gweithio gyda'r heddlu ac yn ymweld ag ardaloedd myfyrwyr yn y ddinas i ymchwilio i unrhyw bartïon tŷ sy'n digwydd.