Back
Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol 2019/20 Cyngor Caerdydd

 

 11/9/2020

Bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu gwerthusiad, adborth a chynnydd o ran perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn y cyfarfod ddydd Iau 17, Medi 2020.

 

Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 2019/20 yn rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac yn adrodd ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau ymarfer plant ac oedolion ac yn amlinellu blaenraglen waith Cyngor Caerdydd.

 

Yn ystod blwyddyn sydd wedi gweld amgylchiadau COVID-19 yn effeithio ar y gwasanaethau i gyd, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a'r cyflawniadau cadarnhaol sydd wedi parhau i gael eu cyflawni cyn a thrwy gydol yr argyfwng iechyd byd-eang.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: "Mae Gofal Cymdeithasol wedi bod yn ganolog i ymateb gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd i'r pandemig. Mae wedi golygu ymdrech aruthrol ar ran y sector gofal cymdeithasol cyfan, gan gynnwys gwasanaethau ac unigolion o bob rhan o'r Cyngor i gefnogi'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed. Mae wedi bod yn wirioneddol foddhaus ac yn fraint bod yn rhan ohono. 

 

O ran y gwasanaethau i oedolion, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr ystod o gynlluniau a gwasanaethau newydd sydd wedi'u darparu'n llwyddiannus gan gynnwys;

 

- Lansio'r Porth Gofalwyr newydd sy'n cynnig un man ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth i oedolion sy'n ofalwyr yn y rhanbarth

- Agorwyd gwasanaethau dydd newydd i bobl â dementia yn y Tyllgoed, gan ategu'r gwasanaethau sydd eisoes ar gynnig yn ardal Trelái yn y ddinas

- Mae Tŷ Canna wedi parhau i ddatblygu gwasanaethau allgymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaeth newydd i bobl ifanc sy'n trosglwyddo i wasanaethau oedolion 

- Mae'r 'fyddin binc' a'r pwynt mynediad sengl integredig newydd ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty wedi gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gefnogi mwy o bobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol. 

Yn ogystal, mae arbenigwyr annibynnol wedi gwerthuso cyfleoedd dydd y Cyngor fel rhai arloesol sy'n torri tir newydd yn y ffordd y maent yn cefnogi pobl i fod yn annibynnol ac yn byw bywydau bodlon yn y gymuned.

Ychwanegodd y Cynghorydd Elsmore: "Mae gwerth gofal cymdeithasol a'r effaith a gaiff ar fywydau pobl, gan ganolbwyntio ar achub bywydau a chadw pobl yn ddiogel, wedi cael ei ddathlu, ac erbyn hyn mae cyfle gwirioneddol i adeiladu ar yr ymagwedd gadarnhaol hon, gan gydnabod a chynllunio ar gyfer yr heriau sylweddol a fydd yn codi yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy o ganlyniad i'r argyfwng."

 

Yn y Gwasanaethau Plant, mae datblygiadau gwasanaeth newydd sylweddol wedi'u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys lansio Gwasanaeth Cynghori Teuluoedd Caerdydd, sy'n darparu un pwynt cyswllt i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle gellir eu cyfeirio at amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth, yn ogystal â lansio Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc YMCA a roddodd gymorth y mae mawr ei angen i ofalwyr ifanc yn ystod y cyfnod cloi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'n fraint enfawr gweithio gyda phobl sy'n mynd drwy gyfnod o salwch, anabledd, straen a heriau eithafol ac ochr yn ochr â hwy, i gefnogi newid cadarnhaol ac ansawdd bywyd. 

 

"Mae gwrando ar straeon unigol pobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau mor bwysig o ran dathlu ac adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda, a bod yn agored i welliannau pan fo'u hangen. Mae'r gwasanaethau a ddarparwn yn bwysig nid yn unig am eu bod yn uchafbwynt cymaint o waith, ond oherwydd yr effaith a wnânt ar fywydau pobl ag anghenion gofal a chymorth."

 

Mae timau o Wasanaethau Cymdeithasol Caerdydd wedi cael eu cydnabod yn y Gwobrau Diogelu Rhanbarthol, gan gynnwys Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc a'r tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn a chydnabuwyd dros 100 o weithwyr o bob rhan o'r Gwasanaethau Plant yn y Digwyddiad Dathlu Arwyddion Diogelwch am eu cyflawniadau o ran gwella'r ffordd y mae Caerdydd yn gweithio gyda phlant a theuluoedd ac ochr yn ochr â hwy.

 

Cydnabuwyd cyflawniadau gweithwyr rheng flaen a oedd wedi ennill eu cymwysterau mewn gofal yn llwyddiannus yng Ngwobrau Blynyddol y Gweithwyr Gofal a chydnabuwyd cyflawniadau plant a phobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a darparwyr gofal yng ngwobrau The Bright Sparks.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Hinchey: "Rheoli toriadau ariannol parhaus i wasanaethau cyhoeddus wrth foderneiddio ein gwasanaethau a blaenoriaethu gofal i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yw un o'r heriau anoddaf sy'n wynebu pob awdurdod lleol ledled y DU.

 

"Rydym yn falch o'r cynnydd a wnaed, ond nid yn hunanfodlon ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud, i barhau i ddatblygu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd i fod o'r safonau uchaf, i gefnogi ein gweithlu a diogelu, amddiffyn a gwella canlyniadau i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed."