Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; y diweddaraf am achosion sy'n effeithio ar ysgolion; a gwiriadau cydymffurfio sy'n parhau mewn safleoedd trwyddedig ledled y ddinas.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Mae niferoedd COVID-19 Caerdydd yn parhau i godi. Y diweddaraf: 27.5 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth am y saith diwrnod diwethaf (ffigur cyfatebol ddoe, 23.7)
Dilynwch y canllawiau
Gostyngwch y niferoedd
Osgowch gyfnod cloi lleol
https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
21 Medi 2020, 13:00
Achosion: 101
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 27.5
Achosion profi: 3,435
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 936.2
Cyfran bositif: 2.9%
Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion
Ysgol Gynradd Mount Stuart
Mae disgybl Blwyddyn 1 o Ysgol Gynradd Mount Stuart wedi profi'n bositif am COVID-19.
Mae 60 o ddisgyblion a 9 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Danescourt
Mae disgybl o'r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Danescourt wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae 52 o ddisgyblion a 9 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Albany
Mae prawf positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Albany. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd St Albans
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd St Albans. Mae 28 o ddisgyblion o Flwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ogystal â thri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Moorlands
Mae dau aelod o staff wedi profi'n bositif am COVID-19 yn Ysgol Gynradd Moorlands a byddant ill dau'n hunan-ynysu. Nid oes angen i eraill hunan-ynysu oherwydd y ffactorau lliniaru sydd ar waith yn yr ysgol ac nid effeithiwyd ar unrhyw ddisgyblion.
Gwiriadau cydymffurfio yn parhau
Mae swyddogion trwyddedu o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn parhau i gynnal gwiriadau cydymffurfio ym mhob safle trwyddedig ledled y ddinas.
Mae Hysbysiad Gwella pellach wedi'i gyflwyno i'r Vulcan Lounge/Bar ar Wyverne Road yn Cathays ddydd Gwener (19/09/20), gan nad oedd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn yn y lleoliad.
Mae hyn yn dilyn atal yr Hysbysiad Gwella ar y Mocka Lounge yn Lôn y Felin, yn ogystal â'r newyddion diweddar bod yr Hysbysiadau Gwella ar Peppermint, Gin & Juice, Rum & Fizz a Coyote Ugly bellach wedi'u codi.
Mae gan bob lleoliad gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl sy'n bwyta neu'n yfed yn y sefydliad yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol. Rhaid i brosesau fod ar waith i sicrhau bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn a rhaid i system tracio ac olrhain fod ar waith hefyd, gan gasglu enwau a rhifau ffôn cwsmeriaid.
Mae swyddogion trwyddedu yn asesu nifer o feysydd, gan gynnwys:
Yn dilyn cyflwyno hysbysiad cau i'r bar Loco Latin ddydd Llun diwethaf (14/09/20), bydd y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau digonol yn cael eu rhoi ar waith.