Back
Datganiad yr Arweinydd i'r Cyngor - COVID-19

24/09/20

Diolch, Arglwydd Faer, am roi'r cyfle hwn imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am sefyllfa Covid-19 yng Nghaerdydd.

Bydd aelodau'n gwybod bod nifer o awdurdodau cyfagos wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion, gan arwain at drefniadau cloi lleol bellach yn ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr i Gasnewydd.

Er nad yw unrhyw fesurau cloi lleol yn effeithio ar Gaerdydd eto, mae'n bwysig eich bod yn gwybod bod nifer yr achosion positif newydd yn y ddinas wedi codi'n sydyn dros yr wythnos ddiwethaf: 

  • Mae cyfradd yr achosion Covid-19 newydd (nifer yr achosion fesul 100,000 o bobl dros 7 diwrnod) wedi gwaethygu'n gyflym dros y 5 diwrnod diwethaf ac mae bellach yn sefyll ar 38.2.
  • Mae nifer y profion positif wedi codi'n sylweddol yng Nghaerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf. Mae Caerdydd bellach wedi cyrraedd cyfradd profion positif o 3.8% sy'n uwch na throthwy 'ambr' Llywodraeth Cymru o 2.5%.
  • Mae nifer y galwadau yn ymwneud â Covid i 111 ac ymgynghoriadau meddyg teulu wedi dechrau cynyddu eto dros y pythefnos diwethaf, gan gyrraedd y lefel uchaf ers mis Mehefin, a bu cynnydd mawr yn y niferoedd yn mynd i Unedau Achosion Brys Ysbytai dros yr wythnos diwethaf ar ôl cyfradd gymharol sefydlog yn ystod diwedd Awst a dechrau Medi - er, hoffwn ychwanegu nad ydym, eto, wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y derbyniadau i ysbytai.
  • Er y bu rhai achosion newydd mewn cartrefi gofal a gofal cartref yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r niferoedd hyn yn parhau'n isel ar hyn o bryd ac ond yn effeithio ar ychydig leoliadau. Fodd bynnag, mae arwyddion cynnar o duedd gynyddol yng Nghaerdydd.
  • Er ein bod yn gweld achosion mewn ysgolion, y newyddion cadarnhaol yw bod y mwyafrif yn achosion unigol mewn lleoliad, gyda dim ond nifer fach gyda mwy nag un achos wedi'i gadarnhau.  Ac ers Medi 6, ni chafwyd un achos lle mae disgybl sydd wedi bod yn hunan-ynysu wedi profi'n gadarnhaol.

 

Mae hyn wedi golygu bod Caerdydd, dros yr wythnos diwethaf, wedi symud o sefyllfa gymharol sefydlog i un lle mae'r ddinas ar fin mynd i 'barth coch' Llywodraeth Cymru.

Mae'r dystiolaeth yng Nghaerdydd yn dangos gan amlaf fod lledaeniad yr haint yn digwydd ar aelwydydd. 

Mae ein data Profi, Olrhain, Diogelu yn awgrymu bod hyn yn digwydd yn benodol mewn achosion lle mae rheolau swigen deuluol yn cael eu torri a lle mae pobl yn cymysgu mewn lleoliadau dan do, yn y cartref a lle nad ydynt yn dilyn y rheol chwech. 

Y gwir yw - a byddwn ni fel Cynghorwyr oll wedi gweld hyn yn ein hardaloedd lleol - bod cymysgu dan do â phobl nad ydynt yn ein haelwydydd estynedig mewn cartrefi, caffis, bariau a bwytai, yn digwydd lawer gormod.

Bu newid hefyd ym mhroffil oedran y rhai a heintiwyd, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl 35-50 oed sydd bellach yn cael profion positif. 

Mae trosglwyddo'r feirws i bobl hŷn neu bobl sy'n agored i niwed a'r cynnydd dilynol mewn derbyniadau brys, derbyniadau i'r ysbyty, a marwolaethau yn bryder difrifol.

 

Roedd y newidiadau hyn yn ddigon arwyddocaol i sbarduno ymgynnull cyfarfodydd rheolaidd y Tîm Rheoli Digwyddiadau dan ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu lleol i ystyried y data, achos tebygol y cynnydd mewn heintiau ac a oes angen cyfyngiadau lleol ychwanegol i gyfyngu lledaeniad y feirws. 

Cafodd argymhellion y TRhD ynghynt yr wythnos hon eu hystyried a'u cymeradwyo gan Uwch Grŵp Arwain gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro, dan gadeiryddiaeth Charles Jancewski, ac roeddwn innau ac Arweinydd Bro Morgannwg, Neil Moore, yn bresennol.

Felly, cyflwynwyd y mesurau ychwanegol canlynol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:

  • Gwella ein cyfathrebu a'n negeseuon yn lleol, gan gynnwys pwysleisio pwysigrwydd peidio â chymysgu â phobl dan do nad ydynt yn rhan o'r aelwyd estynedig.
  • Cyfyngu ymweliadau dan do â chartrefi gofal ac ysbytai i ymweliadau hanfodol yn unig
  • Gwella ymgysylltu â busnesau a chymryd camau gorfodi os oes diffyg cydymffurfiaeth
  • Gwella ein gwaith gyda phrifysgolion a cholegau addysg bellach y ddinas i gryfhau negeseuon i fyfyrwyr am bwysigrwydd cydymffurfio â rheoliadau - a'r cosbau am beidio â gwneud hynny.

 

Roedd y pecyn hwn o fesurau, ynghyd â'r mesurau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru, yn ymateb cytbwys a chymesur i natur y risg yng Nghaerdydd ar y pryd.

Fel y gwelsom dros yr wythnos diwethaf, gall y sefyllfa newid yn gyflym.

Mae'r Prif Weithredwr a fi mewn deialog gyson â'n cymheiriaid yn Llywodraeth Cymru. Yn wir, cyfarfûm â'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd ychydig cyn cyfarfod y Cyngor hwn. Yr hyn sy'n amlwg yw bodOs bydd nifer yr achosion yn parhau i godi, mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd Caerdydd yn rhan o 'barth coch' Llywodraeth Cymru. 

Pe bai hynny'n digwydd, yna rwy'n disgwyl yn llawn y byddwn yn rhoi cyfyngiadau pellach ar waith - fel y gwelir mewn mannau eraill yn y ddinas-ranbarth - ac o bosibl yn gyflym, er mwyn cyfyngu a rhwystro'r feirws.

Gwn ein bod ni oll, fel aelodau, yn gwneud ein gorau i rannu'r neges a chadw ein cymunedau'n ddiogel.Fy addewid i Aelodau yw y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn eich briffio cyn gynted â phosibl ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.

I staff ein Cyngor, dywedaf hyn - rydych chi'n gwybod pa mor ddiolchgar ydym i chi am eich gwasanaeth yn ystod cam cyntaf yr argyfwng hwn. Gwn y byddwch chi'n ddygn wrth barhau i wasanaethu'r ddinas dros y diwrnodau nesaf, a safaf ochr yn ochr â chi.

Ac i bobl Caerdydd, fy neges yn awr yw bod yn rhaid i bob un ohonom ailymrwymo ein hunain i'r canllawiau iechyd cyhoeddus ac ymdrechu fwyfwy i amddiffyn ein teuluoedd, ein ffrindiau, a ni ein hunain rhag niwed. Mae hon yn adeg bryderus, felly gadewch i ni fod yno i'n gilydd.

Diolch.