Back
Cyngor Caerdydd yn lansio canllaw newydd i helpu teuluoedd i wneud cais am leoedd mewn ysgolion


28/09/20
Mae ymgyrch sy'n rhoi arweiniad syml i deuluoedd i wneud cais am leoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd wedi cael ei lansio.

Mae Tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi llunio 7 awgrym da i helpu pobl trwy esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt a pham y dylent wneud cais yn brydlon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Gall gwneud cais am le mewn ysgol fod yn amser gofidus iawn, yn enwedig os nad yw teuluoedd yn gwbl ymwybodol o sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio neu y gallai cwblhau'r cais yn anghywir lesteirio'r cyfle iddynt gael lle yn eu dewis ysgol.

"Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses ymgeisio mor syml a thryloyw â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd yr wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

Mae'r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd sy'n helpu i esbonio'r 7 awgrym da. Mae'n ymdrin â phethau fel:

-         Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais

-         Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau

-         Yr angen i gynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu'r posibilrwydd o gael lle yn eu dewis ysgol gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os na chynigir eich dewis ysgol i chi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae gan Gaerdydd lawer o ysgolion gwych, felly gall lleoedd lenwi'n gyflym. Gobeithio y bydd yr ymgyrch hon o fudd i lawer o gymunedau yng Nghaerdydd ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rieni wrth wneud penderfyniadau a cheisiadau am leoedd mewn ysgolion."

I weld canllaw y 7 awgrym da a'r animeiddiad, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=4L9TC_a-RfA

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2021 yn agor ddydd Llun, 28 Medi ac yn cau ddydd Llun 23 Tachwedd 2020.

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol gynradd yn agor ddydd Llun 16 Tachwedd 2020 ac yn cau ddydd Llun, 11 Ionawr 2020.

I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i: caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion 

Mae'r ymgyrch 7 awgrym da Derbyn i Ysgolion ddiweddaraf yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd.

Bydd y wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Tsieceg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Pwyleg, Somalieg a Bengaleg. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar i academyddion yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi'r ymgyrch trwy ddarparu trosleisio ar gyfer yr animeiddiadau yn yr ieithoedd hyn.