Back
DIWEDDARWYD: Awgrymiadau da ar gyfer delio â'ch gwastraff a'ch ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws

28.09.2020

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi'n gallu delio â'ch eitemau dieisiau yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithlon.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\Projects\2019-2020\Waste\COVID19\Recycling Rate Increase\bin presentation new.jpg

Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wneud gyda gwastraff dieisiau

   Batris ac eitemau trydanol- Mae gan lawer o archfarchnadoedd flychau casglu batris hefyd. Gallwch hefyd fynd â batris ac offer trydanol i'ch canolfan ailgylchu leol i'w hailgylchu. Archebwch cyn i chi ymweld yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

     Gall eitemau trydanol mwy fel oergelloedd gael eu casglu am ddim gyda'n gwasanaeth casglu swmpus. Mae galw mawr am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd felly efallai yr hoffech drefnu ymweliad â'ch canolfan ailgylchu leol yn lle hynny. Gallwch gael gwybodaeth ar gasgliadau swmpus yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Casgliadau-eitemau-swmpus/Pages/default.aspx

     Peidiwch â rhoi batris ac eitemau trydanol gyda'ch gwastraff cyffredinol nac yn eich bagiau ailgylchu. Byddant yn achosi tanau mewn canolfannau ailgylchu ac os ydynt yn agored i dymheredd uchel, gallai hyn achosi ffrwydrad.

   Dillad a thecstilau- gallwch fynd â nhw i'ch canolfan ailgylchu leol, peidiwch â'u rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd. Trefnwch slot cyn ymweld: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

     Holwch eich siop elusennol leol os ydynt yn derbyneitemau o ansawdd da y gellir eu hailddefnyddio

     Defnyddiwch eich cadi bwyd ar gyferbwyd dros ben a bwyd gwastraff. 

   Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid os ydych yn defnyddioclytiau tafladwy a phadiau anymataliaeth:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

Cofiwch roi eich biniau a'ch bagiau allan erbyn 6amar eich diwrnod casglu. Nid yw'r diwrnodau casglu wedi newid, ond efallai y bydd ein tîm casglu gwastraff allan i'w casglu yn gynharach.

Peidiwch â thaflu hancesi papur, menig, masgiau wyneb, cadachau gwrth-facterol a thywelion papur gyda'ch ailgylchu. Yn lle hyn, dylid eu rhoi yn eich bagiau gwastraff cyffredinol â streipiau coch neu eich biniau du. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi. 

Sut i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel

  Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau o'r coronafeirws, megis tymheredd uchel neu beswch, RHAID i chi ddyblu'ch bagiau gwastraff cyffredinol os gallwch a'u gadael am 72 awr cyn eu rhoi y tu allan i'w casglu.

  Diheintiwch handlenni'r bin a golchwch eich dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl rhoi'r bin allan i'w gasglu.

Helpwch i amddiffyn ein staff a gofalwch am eraill drwy atal trosglwyddo'r feirws gymaint â phosibl.

Lawrlwythwch ein App Cardiff Gov a gosod rhybuddion ar gyfer eich dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu. Rhagor o wybodaeth yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx

Words: 415