Back
Ymweld â safleoedd yng Nghaerdydd yn dilyn adroddiadau am dorri rheoliadau Covid
Cafodd saith ar hugain o safleoedd yng Nghaerdydd ymweliadau gan swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a Heddlu De Cymru y penwythnos diwethaf, yn dilyn adroddiadau am sŵn, ac mewn rhai achosion, torri rheoliadau Covid-19.

Roedd yr ymweliadau’n cynnwys:

  • mwy na 100 o bobl yn ymgynnull y tu allan i lety myfyrwyr;
  • parti yn cynnwys mwy na 30 o bobl mewn eiddo rhent yn y Rhath ;
  • parti mewn tŷ yn Cathays lle’r oedd mwy na 20 o bobl yn bresennol;
  • parti dan do mewn safle trwyddedig yn ardal Sblot/Adamsdown yn y ddinas lle nad oedd mygydau yn cael eu gwisgo ac nad oedd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Yn ogystal â nodi eu manylion dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mewn perthynas â chwynion yn ymwneud â sŵn, pan fo’n briodol cyflwynodd y swyddogion Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wybodaeth i denantiaid mewn perthynas â rheoliadau Covid.

Bydd y safle trwyddedig yn destun adolygiad pellach o ran cydymffurfio â Covid-19 gan swyddogion y gwasanaeth yr wythnos hon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: “Mae’n bwysig bod pobl yn dilyn y rheoliadau Covid-19 sydd wedi cael eu rhoi ar waith i helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel a helpu i arafu trosglwyddiad Covid-19.

“Bydd swyddogion o’n Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn parhau i weithio’n glos gyda Heddlu De Cymru dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod hynny’n digwydd.”