Back
nrhydeddu portreadau Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd

30/09/20

YMUNWCH YN Y BROSES DDETHOL

Mae panel o arbenigwyr wedi lleihau'r enwebeion i 13 o enwau (nifer y chwaraewyr mewn tîm Rygbi'r Gynghrair) a gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan drwy bleidleisio dros eu tri uchaf. Yna caiff y canlyniadau eu trosglwyddo i'r panel i'w hystyried. Yna bydd enwau'r chwaraewyr hynny a fydd yn cael eu hanrhydeddu yn cael eu datgelu cyn dadorchuddio heneb addas.

I ddarllen am yr ymgeiswyr, ac i gofrestru eich pleidlais, ewch i -www.rugbycodebreakers.co.uk

XIII MAWRION RYGBI'R GYNGHRAIR BAE CAERDYDD
Yn Adamsdown, Sblot, Butetown a Grangetown

BILLY BOSTON
Ganed ar 6 Awst, 1934 yn Angelina Street, aeth i Ysgol South Church Street a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd, Clybiau Bechgyn Cymru, Ieuenctid Cymru, y CIACS a Chastell-nedd yn rygbi'r undeb. Arwyddodd i Wigan RL tra'n dal i fod yn ei arddegau am £3,000. Roedd yn ddêl dda i Wigan wrth i Billy fynd ymlaen i sgorio 478 o geisiau mewn 487 o gemau ar eu cyfer, gan eu helpu i ennill chwe rownd derfynol y Gwpan Her a gyrhaeddon nhw yn ei 15 tymor yn y clwb. Sgoriodd ddwywaith hefyd yn eu buddugoliaeth derfynol ym Mhencampwriaeth 1960 i ennill teitl cyntaf Wigan mewn wyth mlynedd, a chafodd ddwy fedal enillydd Cynghrair Swydd Gaerhirfryn ac un gwpan Swydd Gaerhirfryn. Enillodd Gwpan y Byd gyda Phrydain Fawr a chwaraeodd 31 o weithiau i'r Llewod, gan ddod yn ymwelydd du cyntaf ag Awstralia. Mae yn Neuadd Enwogion Rygbi'r Gynghrair a Wigan, ar 'Gofrestr Anrhydedd' Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru ac fe'i gwnaed yn MBE am ei wasanaethau i chwaraeon. Mae hefyd gerflun iddo yn Wigan ac mae wedi'i gynnwys ar gerflun Rygbi'r Gynghrair yn Stadiwm Wembley.

DENNIS BROWN
Ganed Dennis ar 24 Medi, 1944, yn Sgwâr Loudoun ac aeth i Ysgol South Church Street. Bu'n gwasanaethu yn y Môr-filwyr Brenhinol ac yn chwarae rygbi'r undeb ar gyfer Gwasanaethau Devenport, Dyfnaint a'r Llynges Frenhinol yn y Bencampwriaeth Rhyng-Wasanaethau yn Twickenham. Ymunodd â Widnes, gan sgorio 94 o geisiau mewn 173 o gemau rhwng 1965 a 1975. Enillodd gap i Gymru yn Rygbi'r Gynghrair ym 1969.

GERALD CORDLE
Ganed yn Northi  Church Street ar 29 Medi, 1960, aeth i Ysgol y Forwyn Fair, lle dysgodd chwarae pêl-droed, ac yna i Esgob Llandaf. Doedd e ddim yn chwarae rygbi nes ei fod yn 19 oed, gan ddechrau yn nhîm Butetown. Yna cafodd gyfnod prawf gyda'r Glamorgan Wanderers cyn i Gaerdydd alw arno. Sgoriodd 166 o geisiau mewn 194 o gemau ar gyfer y Blue & Blacks, gan ennill tair o bedair rownd derfynol Cwpan Her URC lle chwaraeodd drostynt. Ar ôl wyth mlynedd ym Mharc yr Arfau ymunodd â Bradford Northern ym 1989 ac aeth ymlaen i chwarae 132 o gemau ar gyfer y clwb o Swydd Efrog, gan sgorio 77 o geisiau. Fe'u helpodd i ennill Cwpan Swydd Efrog ym 1989, gan sgorio ddwywaith yn rownd derfynol Tlws Regal ym 1991, pan gollasant i Widnes. Enillodd wyth cap dros Gymru a chwaraeodd unwaith i Brydain Fawr.

JOE CORSI
Wedi'i eni i deulu rygbi o fewnfudwyr Eidalaidd ym mis Gorffennaf, 1894, bu Joe yn byw yn Adam Street a Sandon Street, yn Adamsdown. Daeth yn boblogaidd iawn ym myd rygbi'r gynghrair fel asgellwr a sgoriodd nifer o geisiau, gan chwarae i Rochdale ac yna Oldham. Chwaraeodd gyda'i frawd, Louis, yng Nghwpan Her 1922 a enillwyd gan Rochdale yn erbyn Hull. Yn Oldham chwaraeodd 150 o gemau a chwaraeodd mewn tair rownd derfynol Cwpan Her olynol - 1924, 1925 a 1926 - gan ennill ym 1925. Enillodd ei gap un a'r unig gap RG dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1923. Yn ei bedwar tymor cyntaf yn Oldham ef oedd y sgoriwr ceisiau mwyaf gyda 30 ym 1923-4, 27 ym 1924-5, 23 ym 1925-6 a 23 eto ym 1926-7. Collodd rownd derfynol Cwpan 1928, ond mae wedi'i gynnwys yn Neuadd Enwogion Rygbi'r Gynghrair Oldham.

COLIN DIXON
Fe'i ganed yn Sgwâr Loudoun ym mis Rhagfyr, 1943, ac aeth i Ysgol South Church Street a graddiodd o Ieuenctid Caerdydd i Halifax ym 1961, gan ymuno yn 17 oed. Gyda Johnny Freeman, helpodd Halifax i ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 57 mlynedd ym 1964 a daeth yn gapten y clwb ym 1967 a 1968. Enillodd y cyntaf o'i gapiau i Gymru a Phrydain Fawr yn nhymor 1968-69, pan symudodd i Salford am ffi o £15,000, a oedd yn record byd ar y pryd. Chwaraeodd mewn wyth rownd derfynol yn Salford, gan ennill Cwpan Swydd Gaerhirfryn ym 1972 a Tllws Floodlit y BBC ym 1975. Enillodd Salford Bencampwriaeth y Gynghrair hefyd ym 1974 a 1976. Daeth yn hyfforddwr yn Salford cyn mynd am un tymor olaf i Hull Kingston Rovers, lle enillodd yr Uwch Gynghrair a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Swydd Efrog. Ar y llwyfan rhyngwladol, sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf i Gymru, gan ennill seren y gêm, mewn buddugoliaeth dros y Saeson ym 1968. Enillodd 16 o gapiau i Gymru, gan gynnwys Cwpan y Byd 1975, a gwnaeth 14 ymddangosiad ar gyfer Prydain Fawr, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan fuddugol Cwpan y Byd 1972. Sgoriodd 177 o geisiau mewn 738 o gemau. Mae wedi ei gynnwys yn Oriel Enwogion Rygbi'r Gynghrair Halifax.                                                    

ROY FRANCIS
 

Ganed yng Nghaerdydd ym 1919, ond fe'i magwyd ym Mrynmawr. Trodd Roy yn broffesiynol gyda Wigan tra'n dal yn ei arddegau. Byddai'n mynd ymlaen i sgorio 229 o geisiau mewn 356 o gemau mewn gyrfa a'i gwelodd hefyd yn chwarae i Barrow, Warrington, Hull a Dewsbury. Ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Prydain Fawr a'r hyfforddwr du cyntaf mewn chwaraeon proffesiynol yn y DU. Chwaraeoedd dros Dewsbury drwy gydol y rhyfel, gan chwarae mewn tair rownd derfynol y Bencampwriaeth yn olynol wrth i ochr Eddie Waring guro Bradford a Halifax, gan golli i Wigan ym 1944. Dychwelodd i Barrow ar ôl y rhyfel ac enillodd anrhydeddau rhyngwladol i Gymru a Phrydain Fawr. Enillodd bum cap i Gymru a sgoriodd gais hollbwysig mewn buddugoliaeth enwog 13-10 dros Loegr ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd 1946. Yn ei gêm gyntaf dros Brydain Fawr yn erbyn Seland Newydd sgoriodd ddau gais mewn buddugoliaeth 25-9 yn Bradford ym 1947. Ni chafodd ei ddewis i daith Cyfres y Lludw Prydain Fawr 1946 i Awstralia, am resymau gwleidyddol, gan fod y trefnwyr yn ofni y gallai achosi problemau oherwydd gwaharddiad Awstralia ar bobl nad oeddent yn wyn. Ymunodd â Warrington ym 1948 a chwaraeodd yn eu colled i Huddersfield yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth 1949. Yna symudodd i Hull, lle daeth yn hyfforddwr-chwaraewr. Dan ei arweiniad arbenigol, enillodd Hull y Bencampwriaeth ym 1956 a 1958 a hefyd cyrhaeddodd rownd derfynol y Gwpan Her yn Wembley ym 1959 a 1960. Gadawodd Hull ym 1963 i ymuno â Leeds, a oedd ar frig y tabl Rygbi'r Gynghrair ym 1967 a 1968, enillodd Gynghrair Swydd Efrog ym 1966 a 1968, cyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Swydd Efrog ym 1965 ac enillodd rownd derfynol Cwpan Her 1968. Chwyldrôdd y ffordd y chwaraewyd y gêm gyda'i arddull eang ac roedd yn un o'r hyfforddwyr cyntaf mewn unrhyw gamp i gyflwyno dadansoddiad fideo a llawer o ddatblygiadau arloesol eraill sydd bellach yn safonol ym mhob clwb chwaraeon proffesiynol. Bu'n hyfforddi North Sydney, yn Awstralia, am ddau dymor, gan ysgogi chwyldro hyfforddi a fyddai'n adfywio'r gêm yno a gwneud eu tîm cenedlaethol y gorau yn y byd dros y tri degawd nesaf. Gadawodd Awstralia ym 1971, unwaith eto oherwydd rhagfarn, a dychwelodd i Hull i fod yn rheolwr tîm o 1971 i 1973. Yn ddiweddarach enillodd Uwch Gynghrair yn ôl yn Leeds yn ystod tymor 1974-75, cyn gorffen ei yrfa hyfforddi eithriadol gyda Bradford Northern o 1975.

JOHNNY FREEMAN
Ganed Johnny yng nghanol Tiger Bay yn Stryd Sophia ym 1934, aeth i Ysgol South Church Street lle'r oedd yn yr un tîm â Billy Boston a'i gefnder, Joe Erskine. Chwaraeodd gyda'r ddau yn y CIACS cyn ymuno â Halifax ym mis Rhagfyr, 1954. Sgoriodd 291 o geisiau mewn 398 o gemau dros dri thymor. Helpodd Halifax i guro Seland Newydd ym 1955 gyda chais o 50 llath. Chwaraeodd yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth 1956 yn erbyn Hull a chwaraeodd hefyd yn rownd derfynol y Gwpan Her i St Helens yn Wembley. Yn nhymor 1956-57 sgoriodd drichais yn erbyn Billy Boston mewn buddugoliaeth o 25-9 yn erbyn Wigan a sgoriodd 38 o geisiau yn 20 gêm gyntaf y tymor hwnnw. Cafodd anaf ddrwg yn Nadolig y tymor hwnnw, a gostiodd ei le ar daith 1958 i Awstralia, ac ni chwaraeodd am flwyddyn. Ym 1963-64 helpodd Halifax i ennill Cwpan Her Swydd Efrog a Phencampwriaeth y Dwyrain ac yna Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair y tymor nesaf. Chwaraeodd mewn un rownd derfynol arall yn y Bencampwriaeth ym 1966.Prin fu gemau rhyngwladol Cymru yn ystod ei gyfnod yn Halifax, felly unwaith yn unig y chwaraeodd dros ei wlad. Bu farw yn Butetown ym mis Mehefin, 2017, ar ôl dychwelyd i fyw i ddinas ei eni. Ef o hyd sy'n dal record clwb Halifax o 48 o geisiau mewn 45 o gemau ym 1956-57 a 290 o geisiau yn ei yrfa.

-          

GUS RISMAN
Yn fab i fewnfudwyr o Rwsia a ymgartrefodd yn Tiger Bay, ganed Gus ar 23 Mawrth, 1911, yn Sophia Street ac aeth i Ysgol South Church Street. Rhedodd ei rieni dŷ preswyl, cyn symud i'r Barri i redeg caffi pan oedd Gus yn 11 oed. Daeth yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed o Gymru, gan gapteinio'r tîm 15 bob ochr mewn gemau rhyngwladol yn ystod y Rhyfel, er iddo fod yn seren rygbi'r gynghrair. Mae ystadegau ei yrfa rygbi'r gynghrair yn syfrdanol ac mae'n aelod o Neuaddau Enwogion Rygbi'r Gynghrair a Workington ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydeddau' Neuadd Chwaraeon Cymru. Mae ganddo stryd wedi'i henwi ar ei ôl yn Salford a Workington ac mae ar gerflun Rygbi'r Gynghrair yn Stadiwm Wembley. Rhwng 1929 a 1954 sgoriodd 4,052 o bwyntiau mewn 873 o gemau dros Salford a Workington Town. Chwaraeodd hefyd mewn 36 o gemau prawf i Brydain Fawr, gan chwarae mewn pum cyfres fuddugol Cyfres y Lludw, ac enillodd 18 o gapiau dros Gymru. Enillodd bedair Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair, aeth i Wembley ar gyfer rownd derfynol y Gwpan Her dair gwaith, enillodd bum teitl Cynghrair Swydd Gaerhirfryn a thair medal enillydd Cwpan Swydd Gaerhirfryn. Roedd yn gapten tîm Workington Town a enillodd y Gwpan Her yn 41 oed.

CLIVE SULLIVAN
Ganed Clive yn Sblot ar 9 Ebrill, 1943, a daeth yn gapten du cyntaf unrhyw dîm ym Mhrydain Fawr ac arweiniodd ei wlad at deitl Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair ym 1972, gan sgorio cais ym mhob un o bedair gêm ei ochr yn y twrnament, gan gynnwys cais o un pen y cae i'r llall yn erbyn Awstralia a gyfrannodd at gêm gyfartal o 10-10 i gipio'r tlws. Ymunodd â'r Fyddin o'r ysgol a chafodd brawf rygbi'r gynghrair yn ei arddegau hwyr. Ymunodd â Hull yn y pen draw ac aeth ymlaen i chwarae 352 o gemau i'r clwb, gan sgorio 250 o geisiau. Yna newidiodd i Hull Kingston Rovers ac ychwanegodd 118 o geisiau i'w record mewn 213 o gemau. Enillodd y Gwpan Her â'r ddau glwb. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf llawn i Brydain Fawr ym 1966-67 gan drwy sgorio'r cais buddugol yn erbyn Ffrainc yn y funud olaf. Chwaraeodd hefyd yng nghyfres Cwpan y Byd 1968 yn Awstralia, gan gapteinio Cymru yng Nghwpan y Byd 1975. Enillodd 17 o gapiau dros Brydain Fawr. Ym 1974, cafodd ei anrhydeddu gydag MBE ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydedd' Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru. Enwyd y brif ffordd i mewn i Hull yn 'Clive Sullivan Way' er anrhydedd iddo.

JIM SULLIVAN
Ganed Jim yn Elaine Street, Sblot, ar 2 Rhagfyr, 1903, ac roedd ei dad yn gigydd o Iwerddon. Aeth i Ysgol St Alban a chwarae rygbi'r undeb dros Gaerdydd yn 16 oed. Erbyn iddo fod yn 17 oed roedd wedi chwarae i'r Barbariaid ac wedi chwarae mewn Prawf Cymreig. Ymunodd â Wigan ac enillodd y cyntaf o'i 26 o gapiau rygbi'r gynghrair, record Gymreig ar y pryd, wyth diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed. Gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn 36 oed ac arweiniodd ei wlad 18 gwaith. Roedd ei gêm gyntaf i Wigan yn erbyn Widnes ym mis Awst, 1921, ac erbyn iddo roi'r gorau i chwarae ym mis Chwefror, 1946, roedd wedi sgorio 6,001 o bwyntiau mewn 922 o gemau. Enillodd bedair Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair, y Gwpan Her ddwywaith a thair Cwpan Swydd Gaerhirfryn. Chwaraeodd 25 o gemau prawf ar gyfer Prydain Fawr, tair dros Lloegr a chwech dros dîm y Gwledydd Eraill. Yn ei 60 ymddangosiad rhyngwladol sgoriodd 329 o bwyntiau. Bu'n hyfforddi Wigan rhwng 1946 a 1952, gan eu harwain at ddwy fuddugoliaeth Cwpan Her yn Wembley, chwe Chwpan Swydd Gaerhirfryn yn olynol a thair rownd derfynol Pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd. Symudodd i St Helens ar ddechrau tymor 1952-53 a'u llywio ar unwaith i deitl Pencampwriaeth y Gynghrair ym 1953 ac i'w llwyddiant Wembley cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach. Mae yn Neuadd Enwogion Rygbi'r Gynghrair, Wigan a St Helen's, ac mae ar 'Gofrestr Anrhydedd' Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru.

FRANK WHITCOMBE
Ganed Frank ar 28 Mai, 1913, ac roedd yn un o 10 o blant a oedd yn byw yn 52, Wedmore Street, Grangetown. Roedd ei dad, Frederick Whitcombe, yn darwr gof yn y Dociau Sych liw dydd, ac yn ymladdwr paffio di-fenig yn Tiger Bay gyda'r nos. Aeth i Ysgol Cyngor Parc Ninian ac ar ôl gadael yn 14 oed bu'n gweithio i The Coal McNeill. Cafodd dreial Cymraeg terfynol mewn rygbi'r undeb a chwaraeodd dros Gaerdydd, Cymry Llundain a'r Fyddin cyn mynd i ogledd Lloegr. Ymunodd â Broughton Rovers ym 1931 a gwnaeth 123 ymddangosiad drostynt cyn ymuno â Bradford Northern ym 1938 am y ffi uchaf erioed bryd hynny, sef £850. Aeth ymlaen i wneud 331 ymddangosiad arall ar eu cyfer dros ddegawd o wasanaeth. Yn Northern chwaraeodd mewn pum Rownd Derfynol Cwpan Her, gan gynnwys tair yn olynol yn Wembley. Roedd yn enillydd ym 1944, 1947 a 1949. Er i Northern golli ym 1948, enillodd Wobr Lance Todd fel seren  y gêm - y tro cyntaf iddi gael ei chyflwyno i chwaraewr ar yr ochr aflwyddiannus. Enillodd dair o'r bum Rownd Derfynol yn y Bencampwriaeth (1940, 41, 45) a phob un Rownd Derfynol Cwpan Swydd Efrog (1941, 42, 46, 49). Enillodd dri theitl Cynghrair Swydd Efrog hefyd (1940, 41, 48). Enillodd 14 o gapiau dros Gymru a teithiodd Awstralia gyda thîm enwog 'Indomitables' Prydain Fawr 1946, gan chwarae mwy o gemau nag unrhyw chwaraewr arall.  Wedi'i gapteinio gan Gus Risman, enillodd Prydain Fawr y gyfres o 2-0 gydag un gêm gyfartal, gan eu gwneud yr unig ochr Brydeinig i beidio â chael ei threchu yng Nghyfres y Lludw draw yn Awstralia.

WILLIAM 'WAX' WILLIAMS
Ganed ym 1879 yn y Westgate Inn ar Frances Street, chwaraeodd 'Wax' mewn 58 o gemau ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd rhwng 1898-1902 cyn mynd i ogledd Lloegr ym mis Mehefin, 1902, i ymuno â Halifax. Enillodd y Gwpan Her ddwywaith, ym 1903 a 1904, a helpodd ei glwb hefyd i ennill teitl yr Adran Gyntaf yn nhymor 1902-03. Chwaraeodd hefyd yn yr ochr a gollodd yn rownd derfynol Cwpan Swydd Efrog 1905.

DAVE WILLICOMBE
Ganed yn Hannah Street, Butetown, yn 1951, symudodd ei deulu ar draws Caerdydd i'r Tyllgoed. Dysgodd chwarae rygbi yn Illtyd Sant a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd a'r CIACS cyn arwyddo ar gyfer Halifax yn 18 oed. Cafodd ei hun yn chwarae ochr yn ochr ag eraill o Tiger Bay, Terry Michael a Johnny Freeman, yn Halifax. Enillodd y ddau gyntaf o'i 13 cap dros Gymru tra'r oedd yn Halifax a'r gweddill yn Wigan. Chwaraeodd hefyd mewn tair Gêm Brawf dros Brydain Fawr ac aeth ar daith 1974 i Awstralia a Seland Newydd, gan chwarae yn y fuddugoliaeth 20-0 dros y Kiwis yn Auckland. Enillodd Gwpan Swydd Gaerhirfryn gyda Wigan ac fe'i hystyriwyd yn un o'r mewnwyr gorau yn y byd yn y naill god neu'r llall.