Back
Casgliadau gwastraff gardd gwyrdd wedi'u hatal dros fisoedd y gaeaf

08/10/20

Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff gardd ledled Caerdydd yn cael eu hatal am bedwar mis er mwyn helpu'r Cyngor i ddelio â'r pandemig COVID-19 parhaus, ac i sicrhau y gellir parhau i gynnal casgliadau gwastraff, ailgylchu a gwastraff bwyd cyffredinol.

 

Bydd y casgliadau gwastraff gardd unwaith y mis, sydd fel arfer yn digwydd ym mis Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr a Chwefror, yn cael eu hatal, er y bydd modd casglu coed Nadolig trigolion rhwng 4 Ionawr ac 11 Ionawr.

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos mis Hydref yn parhau fel arfer. Dylai hyn ganiatáu i drigolion gael gwared ar unrhyw ddail sy'n cwympo yn yr hydref a chlirio unrhyw wastraff gardd cyn y gaeaf.

 

Bydd casgliadau'r gwanwyn yn dechrau ym mis Mawrth pan fydd y Cyngor yn bwriadu ail-gyflwyno casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos. Roedd casgliadau mis Mawrth arfer bod yn fisol.

 

Bydd dal modd i drigolion dod â gwastraff gwyrdd i ganolfannau ailgylchu'r ddinas yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae angen i ni fod yn hyderus y gallwn barhau i gael gwared ar wastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd o'n strydoedd ac mae'r cynnydd diweddar mewn cyfraddau heintio ledled y ddinas yn peri pryder. Mae eisoes yn dechrau effeithio ar ein gweithlu.

 

"Ar hyn o bryd mae angen targedu ein hadnoddau at ffrydiau gwastraff nad oes neb am eu gweld ar y strydoedd. Atal casgliadau gwastraff gardd ar adeg o'r flwyddyn pan fo gwastraff gardd yn naturiol yn sylweddol is, yw ein cyfle gorau i sicrhau y gallwn gadw ein strydoedd yn lân wrth i ni frwydro yn erbyn y pandemig. Bydd y cam hwn yn rhoi rhywfaint o wydnwch i'n staff rheng flaen. Rwy'n sylweddoli y gallai hyn fod yn heriol i rai trigolion, ond rwy'n gobeithio eu bod yn deall y rhesymau pam mae'n rhaid i ni wneud hyn nawr."

Mae'r holl gynnwys ar wefan a sianelau digidol y Cyngor wedi'u diweddaru i ddarparu'r wybodaeth hon -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

 Byddwn yn darparu casgliad ym mis Ionawr ar gyfer coed Nadolig go iawn ac unrhyw wastraff gardd arall - byddwn yn cadarnhau'r dyddiad gyda chi yn nes at yr amser