Back
COVID-19: Gall gwasanaeth cerdd ysgolion ailddechrau


9/10/2020

Bydd gwersi cerddoriaeth mewn ysgolion yn ailddechrau y mis hwn ar ôl iddynt gael eu canslo dros dro oherwydd COVID-19.

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg i baratoi ar gyfer ailddechrau gwersi cerddor yn ddiogel mewn ysgolion.

Mae cyfres o fesurau iechyd a diogelwch, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bellach ar waith i helpu i gadw plant, tiwtoriaid a chymunedau ysgol yn ddiogel tra'n lleihau'r risg o ledaeniad COVID-19.

Mae hyn yn cynnwys addasiadau i'r ffordd y caiff gwersi eu cyflwyno, canllawiau newydd i diwtoriaid, mesurau ymbellhau cymdeithasol a gwell prosesau hylendid.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bu'n rhaid cymryd gofal wrth ailddechrau'r Gwasanaeth Cerdd er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff ac mae paratoadau wedi amrywio o ysgol i ysgol, yn dibynnu ar y gofod a'r capasiti unigol.

 

"Gwnaed gwelliannau eraill i wneud y ddarpariaeth yn fwy hygyrch a bydd Chromebooks yn cael eu darparu i diwtoriaid fel y gellir parhau i gyflwyno gwersi'n ddiogel, os bydd amgylchiadau'n newid."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau i gyd ac rwy'n falch iawn y gall gwersi offerynnol ddychwelyd i ysgolion.

"Mae plant a phobl ifanc wedi colli allan ar lawer dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Felly mae'n hanfodol bod mesurau ar waith fydd yn sicrhau y gallant unwaith eto fwynhau'r diddordebau allgyrsiol sy'n ychwanegu cymaint at eu profiad addysg."

 

Mae manylion llawn y protocolau a'r mesurau sydd gennym ar waith ar wefan y gwasanaeth cerdd;http://www.caerdydd.gov.uk/gwasanaethcerdd