Back
Diweddariad COVID-19: 14 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a safle profi galw i mewn newydd i agor yng Nghaerdydd.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Dilynwch y canllawiau:

https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/cyfnod-clo-caerdydd/Pages/default.aspx

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

13 Hydref

Achosion: 727

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 198.1

Achosion profi: 5,503

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,499.9

Cyfran bositif: 13.2%

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 14Hydref 2020

Ysgol Uwchradd Willows
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 31 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
 

Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog Mae 130 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
 

Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi Mae 224 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
 

Ysgol Uwchradd Radur

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Radur. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.
 

Ysgol Gynradd Albany

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Albany. Mae 25 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
 

Ysgol Gynradd Llanedern

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn y Ganolfan Adnoddau CA2 yn Ysgol Gynradd Pencaerau gan un disgybl. Mae 14 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 6 a 3 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Safle profi galw i mewn newydd i agor yng Nghaerdydd

Mae cyfleuster galw i mewn, i brofi am COVID-19, i gael ei hagor yng nghanol dinas Caerdydd.

Bydd y cyfleuster newydd, ar Rodfa'r Amgueddfa, yn darparu mynediad hawdd i brofion i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd preswyl cyfagos, gan gynnwys poblogaeth myfyrwyr y ddinas.

Bydd y gwaith ar y Safle Profi Lleol yn dechrau heddiw (14 Hydref) a disgwylir i'r safle profi fod ar agor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn 17 Hydref. 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro: "Mae'n hanfodol bwysig bod unrhyw un sydd â symptomau Coronafeirws yn trefnu prawf iddyn nhw'u hunain. Dyma sut y gallwn atal lledaeniad y feirws.

"Yng Nghaerdydd a'r Fro mae gennym un o raglenni Profi, Olrhain, Diogelu mwyaf effeithiol y wlad, a bydd y cyfleuster newydd hwn yn hwb pellach i'n gallu yn lleol i atal lledaeniad y feirws."

Mae'r safle yn un o nifer sy'n agor yn nhrefi a dinasoedd Prifysgol Cymru y mis hwn yn rhan o strategaeth genedlaethol i gynyddu capasiti profi.  

Mae uned brofi Rhodfa'r Amgueddfa yn safle galw i mewn.  Bydd yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos. Gellir trefnu profion yn y ffordd arferol drwy ffonio 119 neu ar-lein yn llyw.cymru/coronafeirws

Dim ond i'r rhai sydd â symptomau Coronafeirws - tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, neu golli'r gallu i arogli neu flasu, neu newid yn y gallu hwnnw - y bydd y profion ar gael.