Back
Bwyty newydd ym Mharc Bute
Gallai Parc Bute yng Nghaerdydd fod yn cael bwyty newydd i wasanaethu ardal ogleddol y man gwyrdd poblogaidd yng nghanol y ddinas.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi tendr i ddod o hyd i arlwywr profiadol i gynnal bwyty symudol, gan weithredu mewn un o dri lleoliad ar unrhyw adeg benodol. Mae'r tri safle, ger Pont y Gored Ddu, Neuaddau Preswyl Tal-y-bont ac Ystafelloedd Newid y Gored Ddu yn boblogaidd drwy'r flwyddyn ac mae llawer o  ymwelwyr ynddynt ar wahanol adegau o'r dydd a'r wythnos.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni eisiau cynnig y profiad gorau posibl i ymwelwyr â Pharc Bute.  Mae hynny'n golygu sicrhau ein bod yn cynnal estheteg y parc ac mae ein tendr yn benodol iawn ynghylch chwilio am weithredwyr sy'n gallu dangos y byddant yn rheoli eu busnes mewn ffordd sy'n ymwybodol o'r amgylchedd.

"Bydd yr arian ychwanegol a gynhyrchir o ganlyniad i'r safleoedd newydd hyn yn ein helpu i barhau i gynnal a gwella'r gofod gwyrdd hwn o'r radd flaenaf sydd wrth galon y ddinas."

Mae telerau masnachol y cytundeb, a fyddai'n para am gyfnod cychwynnol o 12 mis, yn nodi cyfrifoldeb y busnes dros glirio sbwriel o fewn radiws o 20 metr i'r safle, gwaredu unrhyw wastraff yn gywir a'r angen i gynnal sgôr Asiantaeth Safonau Bwyd o 3/5 o leiaf. Byddai'r gwerthwr llwyddiannus hefyd yn cael ei wahardd rhag gwerthu alcohol a thybaco.

Caiff y tendrau eu barnu ar sail meini prawf sy’n cynnwys: ystod a phris y fwydlen, profiad arlwyo blaenorol, datganiad amgylcheddol sy'n cwmpasu meysydd fel lleihau llygredd aer a defnydd dŵr, a’r amserlen fasnachu arfaethedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle, ewch i: https://www.cardiffcouncilproperty.com/cy/2020/10/cyfle-arlwyo-symudol-parc-bute/