Back
Camerâu gorfodi wedi'u hactifadu ar 'Strydoedd Ysgol' i wella diogelwch a helpu i hyrwyddo ymbellhau cymdeithasol

 15/10/2020

Bydd camerâu gorfodi mewn nifer o ysgolion ledled y ddinas yn cael eu hactifadu o heddiw ymlaen i wella diogelwch, helpu disgyblion a theuluoedd i gynnal ymbellhau cymdeithasol ar adegau gollwng a chasglu ac annog teithio llesol.

Bydd arwyddion parhaol yn cefnogi'r cynlluniau a bydd camerâu'n weithredol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu i atal rhieni rhag parcio ar farciau Cadwch yn Glir y tu allan i gatiau'r ysgol.

Bydd camerâu gorfodi hefyd yn cael eu hactifadu ar ffyrdd 'Strydoedd Ysgol' sy'n cael eu cau, lle mae mynediad a pharcio wedi'u cyfyngu i ddeiliaid trwyddedau preswyl, deiliaid bathodynnau glas a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Mae'r ysgolion a ddewiswyd ar gyfer gorfodi neu gau ffyrdd 'Strydoedd Ysgol',yn aml yn wynebu problemau gyda thraffig a pharcio yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol a bydd y mesurau hyn hefyd yn helpu i gefnogi plant a theuluoedd i ymbellhau'n gymdeithasol wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r ymateb a gawsom gan ysgolion, disgyblion, rhieni a thrigolion lleol ynghylch cynlluniau gorfodi a Chau Ffyrdd Strydoedd Ysgol wedi bod yn rhagorol.  O ganlyniad, rydym wedi sicrhau cyllid i barhau â'r cynlluniau hyn ar draws y ddinas.

"Bydd y mesurau hyn yn sicrhau diogelwch plant a theuluoedd drwy gadw ffyrdd y tu allan i ysgolion yn glir o draffig a cherbydau wedi'u parcio. Bydd amseroedd gollwng a chasglu yn fwy diogel a bydd yn caniatáu i gymunedau ysgolion gynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Mae gan bob plentyn hawl i gyrraedd a gadael yr ysgol yn ddiogel. Felly mae'r neges yn glir; peidiwch â pharcio'n anystyriol y tu allan i gatiau'r ysgol a rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl. Yn hytrach defnyddiwch ddull o deithio llesol fel cerdded, beicio neu fynd ar sgwter lle bo modd ac os oes rhaid i chi yrru i'r ysgol, parciwch ymhellach i ffwrdd o gatiau'r ysgol."

"Bydd y fenter hon hefyd yn helpu i gyflawni rhaglen Teithio Llesol i Ysgolion y Cyngor, hyrwyddo teithio llesol fel y ffordd fwyaf diogel o deithio i'r ysgol tra'n helpu i leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer ac ymateb i'r broblem barhaus gyda'r newid yn yr hinsawdd." 

 

I gael rhestr lawn o ysgolion sydd â mesurau gorfodi neu Gau Ffyrdd Strydoedd Ysgol, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Cynnig-strydoedd-ysgolion/Pages/default.aspx

 

Cafodd y Cynllun Strydoedd Ysgol gwreiddiol ei dreialu gan y Cyngor i helpu i leihau traffig yng nghyffiniau pum mynedfa ysgol ym mis Ionawr 2020. Yn ogystal, mae Tîm Teithio Llesol y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion i lunio Cynlluniau Teithio Llesol unigol, sy'n benodol i safle eu hysgol.