Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel
Dilynwch y canllawiau:
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
14 Hydref
Achosion: 820
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 223.5 (Cymru: 125.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,682
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,548.6
Cyfran bositif: 14.4% (Cymru: 9.5% cyfran bositif)
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 15Hydref 2020
Ysgol Uwchradd Willows
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 18 o ddisgyblion Blwyddyn 9 a 18 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith.
Ysgol Uwchradd Radur
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Radur. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith.
Ysgol Uwchradd Cantonian
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cantonian. Mae 33 disgybl o Flwyddyn 11 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.