Back
Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu prydau ysgol am ddim tan y Pasg 2021

 16/10/2020

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud cynlluniau i sicrhau bod teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu parhau i fanteisio ar y ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod £11 miliwn wedi'u gwarantu tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim ar gyfer pob adeg gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021, mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud trefniadau i sicrhau na fydd dros 13,000 o blant yn colli allan.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar bawb, mae'n hanfodol bod y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n cael budd o brydau ysgol am ddim yn gallu parhau i fanteisio ar y ddarpariaeth hanfodol yma.

 

"Ers i ysgolion gau i addysg statudol am y tro cyntaf ym mis Mawrth, mae tîm ymroddedig wedi gweithio'n galed i sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu, gan gynnwys datblygu system dalu BACS newydd, cynllun talebau archfarchnad newydd ac ar ddechrau'r cyfnod cloi, y gwaith o ddarparu 45,000 o becynnau bwyd yn llwyddiannus.

 

"Felly, mae'n galonogol bod arian wedi'i neilltuo fel y gall ein tîm barhau i gynnig y cynllun hwn syudd ei angen yn fawr yn ystod gwyliau ysgol."

Yn ystod cyfnod gwyliau ysgol hanner tymor mis Hydref, bydd y cynllun prydau ysgol am ddim yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio'r cynllun talebau archfarchnad.

Caiff rhieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd daleb gwerth £20 y gellir ei lawrlwytho er budd eu plentyn/plant cymwys, a gellir ei wario yn un o'r archfarchnadoedd canlynol;

- Tesco
- Asda
- Sainsbury's
- Morrisons
- Marks & Spencer
- Waitrose.

Bydd teuluoedd cymwys yn derbyn llythyr yn nodi manylion y daleb yn uniongyrchol gan y Cyngor. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â 02920537250 neu e-bostiwchprydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk