Back
Cynlluniau dros dro wedi eu cynnig ar gyfer Stryd y Castell

 

19/10/20

Mae'r Cyngor yn ystyried ailagor Stryd y Castell i fysiau, tacsis a cherbydau brys fel mesur dros dro tra cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa.

Bydd yr ailagor arfaethedig - a allai fod yn barod erbyn canol mis Tachwedd - yn helpu bysiau a thacsis i groesi o'r dwyrain i'r gorllewin ac o'r gorllewin i'r dwyrain.

Bydd y dyluniad dros dro hwn yn ceisio sicrhau y bydd y feicffordd dros dro - a fydd yn rhedeg o Heol Lecwydd i fyny Heol Casnewydd hyd at y gyffordd â Heol Lydan (Broadway) - yn cael ei chadw drwy gydol yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gallai'r mesur dros dro sydd wrthi'n cael ei ystyried weld y palmant wrth ochr y siopau a'r bariau gyferbyn â'r castell yn cael ei ymestyn i'r ffordd i roi rhodfa ehangach i bobl gadw pellter cymdeithasol. Gallai hefyd greu cyfle i fusnesau lletygarwch gael mwy o le y tu allan i'w hadeiladau i fasnachu.

Dan y cynnig, gallai Stryd y Castell wedyn gynnwys dwy lôn i fysiau a thacsis deithio i'r dwyrain a'r gorllewin, a byddai'r feicffordd dros dro wrth y castell yn aros.

Rhagwelir y byddai'r cynllun arfaethedig yn weithredol cyn i dymor y Nadolig ddechrau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cau Stryd y Castell wedi rhannu barn, gyda dadleuon cryf yn cael eu gwneud o blaid ac yn erbyn y newidiadau a weithredwyd yn ystod y misoedd diwethaf. 

"Ochr yn ochr ag ymarferiad modelu manwl ar lif traffig yn y dyfodol, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr, yn cynnwys busnesau canol dinas, trigolion lleol a dinasyddion ledled Caerdydd, er mwyn helpu i bennu'r cynllun terfynol ar gyfer y stryd."

Mae Cyngor Caerdydd yn monitro tagfeydd ac ansawdd aer ar draws canol y ddinas. Bydd yn modelu unrhyw gynlluniau hirdymor yn fanwl, a fydd yn helpu i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol mewn wardiau cyfagos.

Ar hyn o bryd mae lefelau ansawdd aer ar draws y ddinas wedigwellayn sylweddol ar y llynedd.