Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel
Dilynwch y canllawiau:
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
20 Hydref
Achosion: 1,075
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 293.0 (Cymru: 149.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,073
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,655.2
Cyfran bositif: 17.7% (Cymru: 12.0% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 21 Hydref 2020
Ysgol Gyfun Plasmawr
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Plasmawr. Mae 65 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Ysgol y Berllan Deg
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol y Berllan Deg. Mae 56 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 56 o ddisgyblion Blwyddyn 4 yn ogystal â 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Howardian
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Howardian. Mae 61 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 52 o ddisgyblion Blwyddyn 13 a 32 o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Ysgol Gynradd Danescourt
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Danescourt. Mae 52 o ddisgyblion Dosbarth Derbyn a 7 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Albany
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Albany. Mae 27 o ddisgyblion Dosbarth Derbyn a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff. Mae 59 o ddisgyblion o Flynyddoedd 2 a 4 a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant. Mae 50 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.