Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Arhoswch gartref i achub bywydau.
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
27 Hydref
Achosion: 1,197
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 326.2 (Cymru: 224.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,074
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,655.5
Cyfran bositif: 19.7% (Cymru: 15.6% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 28.10.20
Ysgol Gynradd Glan yr Afon
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Glan yr Afon. Mae 28 o ddisgyblion a 3 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica
Oherwydd nifer yr achosion positif o COVID-19 sydd bellach wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica, mae nifer sylweddol o staff wedi'u cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.
Mae hyn wedi dod â goblygiadau staffio a bydd yr ysgol yn aros ar gau am yr wythnos yn dilyn hanner tymor a bydd yn ailagor i ddisgyblion a staff ddydd Llun 9 Tachwedd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 88 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau o staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.