Back
Grantiau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod atal

01/11/20

Mae grantiau ar gael i fusnesau bach sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol yn sgil y cyfnod atal.

Mae'r cynllun llif arian parod ar waith i gefnogi busnesau bach yng Nghaerdydd y mae'r mesurau cenedlaethol sydd wedi dod i rym i arafu lledaeniad y coronafeirws wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Mae'r grantiau canlynol ar gael ar hyn o bryd:

  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y cyfnod atal sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000, yn gymwys i gael taliad o £5,000;
  • Bydd busnesau sy'n cael rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gymwys i gael taliad o £1,000;
  • Bydd elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig sy'n gweithredu yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch ac sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 yn gymwys i gael taliad o £1,000;
  • Bydd grant atodol disgresiynol o £2,000 ar gael ar sail gwneud cais i'r busnesau hynny sy'n derbyn rhyddhad ardrethi busnesau bach ac sydd wedi cael eu gorfodi i gau yn sgil y cyfyngiadau; a bydd grant disgresiynol pellach o £1,000 yn cael ei wneud ar gael pan fo mesurau'r cyfyngiadau wedi effeithio'n sylweddol arnynt am 21 diwrnod neu fwy cyn dechrau'r cyfnod atal.

I wneud cais am y grantiau sydd ar gael, ewch i wefan Cyngor Caerdydd yma