Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 6 Tachwedd

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: symbolau pabi yn cael eu paentio ar ffyrdd ar draws y ddinas; achosion a phrofion COVID-19; Ymgyrch Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd yn cael cefnogaeth y Llefarydd; a lansio ymgyrch cofrestru i bleidleisio.

 

#CadwchYnDdiogel #ArhoswchAdref

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Symbolau pabi yn cael eu paentio ar ffyrdd ar draws y ddinas

Mae symbolau pabi wedi'u paentio ar ffyrdd ochr wrth ymyl cofebion rhyfel mewn un ar ddeg o leoliadau ledled Caerdydd, fel arwydd o barch at y milwyr sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros eu gwlad.

Mae'r pabïau coch, gyda'r capsiwn dwyieithog 'Yn angof ni chânt fod' oddi tanynt, yna i atgoffa pawb sy'n pasio i dalu teyrnged ar Sul y Cofio.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Eleni, oherwydd y pandemig parhaus a'r cyfyngiadau ar niferoedd, prin yw'r cyfleoedd i bobl ymweld â gorymdeithiau, gosod torchau a thalu teyrnged.

"Mae'r marciau wedi'u rhoi ar ffyrdd ochr ar draws y ddinas fel symbol, felly gallwn gyda'n gilydd dalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu a cholli eu bywydau mewn gwrthdrawiadau, ddoe a heddiw.

"Gyda'r golled drist o fywyd yn ystod y pandemig eleni, mae hefyd yn gyfle i feddwl am bawb y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt, yn enwedig staff, nyrsys a meddygon sy'n ymladd y feirws ar y rheng flaen mewn ysbytai ledled y wlad.

"Oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd y pandemig, prin oedd y cyfle hefyd i gasglu arian a rhoi i Apêl y Pabi. Gellir gwneud hyn ar-lein ac rwy'n annog pawb i roi  os ydynt yn gallu gwneud hynny."

Bydd pob un o'r marciau llawr yn eu lle erbyn fory (5 Tachwedd), gyda dau wedi'u paentio ar ffyrdd ochr ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra, yn ogystal ag yn Grangetown, Llandaf, yr Eglwys Newydd, Llys-faen, Llaneirwg, Radur, Tredelerch a Rhiwbeina.

Oherwydd Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru sy'n gosod cyfyngiadau ar gasgliadau cyhoeddus awyr agored, ni fydd mynediad cyhoeddus i'r Gofeb Ryfel Genedlaethol a Gerddi Alexandra o'i hamgylch fore Sul, 8 Tachwedd.

Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Am y tro cyntaf, bydd y gwasanaeth ar gael i'w wylio'n fyw ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd. Bydd y darllediad yn dechrau o 10.50am ddydd Sul 8 Tachwedd yn:

www.youtube.com/cardiffcouncil.

Bydd y darllediad o'r Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dangos gwasanaeth bach â mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25097.html

Mae'r marciau ffordd wedi'u gosod yn y lleoliadau canlynol:

 

  • Gerddi Alexandra
  • Homesdale Streef - Gerddi'r Faenor
  • Lawnt y Gadeirlan - Llandaf
  • Penlline Road - Yr Eglwys Newydd
  • Lisvane Road - Llys-faen
  • Chapel Row - Llaneirwg
  • Heol Isaf - Radur
  • Wentloog Road - Tredelerch
  • Lôn Ucha - Rhiwbeina
  • Beaumaris Road - Tredelerch

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

5 Tachwedd

 

Achosion: 1,047

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 285.4 (Cymru: 254.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,281

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,439.3

Cyfran bositif: 19.8% (Cymru: 18.7% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Ymgyrch Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd yn cael cefnogaeth y Llefarydd

Mae'r ymgyrch i nodi llwyddiannau Torwyr Cod Rygbi Bae Caerdydd wedi denu cefnogaeth y cyhoedd gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS.

Dan yr arwyddair ‘Un Tîm, Un Ddynoliaeth: Anrhydeddu Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd'. Nod yr ymgyrch yw anfarwoli rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad mewn gwaith celf parhaol sydd wedi'i ddylunio i sicrhau nad anghofir eu hanesion, na stori'r gymuned amlddiwylliannol falch a bywiog a helpodd i'w meithrin.

Mewn llythyr at Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth, ysgrifennodd Syr Hoyle:  "Mae'n bleser gennyf ysgrifennu i gefnogi'r ymgyrch i gydnabod arwyr rygbi Cymru a newidiodd god rygbi'r undeb am rygbi'r gynghrair."

Cyfyngodd panel o arbenigwyr y rhai a fyddai'n cael eu cydnabod i restr o 13, nifer y chwaraewyr sydd mewn tîm Rygbi'r Gynghrair. Magwyd pob un o fewn radiws o dair milltir i Fae Caerdydd.

Ychwanegodd Syr Hoyle: "Mae'n wirioneddol ryfeddol bod ardal Bae Caerdydd wedi cynhyrchu cynifer o chwaraewyr talentog a gyflawnodd bob anrhydedd sydd bosibl, diolch i'w penderfyniad ysbrydoledig i newid cod, yn y gamp 13 bob ochr. Mae cymuned rygbi'r gynghrair, yn gwbl briodol, wedi anfarwoli llawer o'r chwaraewyr megis Clive Sullivan, Billy Boston, Colin Dixon, Roy Francis, Jim Sullivan a Johnny Freeman i enwi dim ond rhai. Yn achos Clive Sullivan, nid yn unig y cafodd lwyddiant sylweddol gartref ond, yn bwysicach, ef oedd y chwaraewr du cyntaf i fod yn gapten ar unrhyw dîm chwaraeon Prydeinig, gan sgorio cais bythgofiadwy ar hyd yr holl gae i helpu Prydain Fawr i ennill Cwpan y Byd 1972! Mae'r stori hon yn wir yn chwedlonol ym maes chwaraeon Prydain. Fodd bynnag, ar y pryd, y tu allan i gylchoedd rygbi'r gynghrair, prin câi hyn ei gydnabod.

"Rwy'n llwyr gefnogi'r ymgyrch i roi cydnabyddiaeth i torwyr cod ar ffurf cerflun. Rwy'n siŵr y bydd yr ymgyrch yn cael llawer iawn o gefnogaeth, nid yn unig yn ne Cymru ond ledled y DU ac yn sicrhau bod y cerddi chwaraeon o'r ardal arbennig iawn hon yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu."

I ddarllen mwy am 'Un Tîm, Un Ddynoliaeth: Anrhydeddu Torwyr Cod Rygbi Bae Caerdydd' ac i gael gwybod sut mae cefnogi'r ymgyrch, ewch i:

www.torwyrcodybydrygbi.co.uk

 

Lansio ymgyrch cofrestru i bleidleisio

Mae ymgyrch hysbysebu newydd wedi'i lansio i annog pobl ifanc a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd i gofrestru i bleidleisio.

Mae newidiadau i'r gyfraith yng Nghymru yn golygu y gall pobl ifanc o 14 oed gofrestru i bleidleisio nawr ac, am y tro cyntaf, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau nesaf y Senedd, a gaiff eu cynnal fis Mai nesaf.

Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 hefyd yn ymestyn yr etholfraint i alluogi dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd hefyd.

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch ddigidol i godi ymwybyddiaeth o'r etholfraint newydd ymhlith trigolion cymwys yn y ddinas ac i'w hannog i sicrhau y gallant ddweud eu dweud yn etholiadau'r Senedd drwy gofrestru i bleidleisio yn:

www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar hysbysebu drwy'r cyfryngau cymdeithasol ar draws amrywiaeth o sianeli gan gynnwys Facebook, Twitter, YouTube a Snapchat, tra bod posteri sy'n hyrwyddo'r etholfraint newydd yn cael eu gosod mewn llochesi bws ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25144.html