Back
Diweddariad COVID-19: 9 Tachwedd

Dyma ddiweddariad gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: map a thabl sy'n dangos nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnodf; a'r ysgolion diweddaraf yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (31 Hydref - 6 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

8 Tachwedd

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd, a thri ym Mro Morgannwg.

Rydym yn defnyddio'r clystyrau hyn oherwydd eu bod yn adlewyrchu orau'r meysydd lle mae pobl fwyaf tebygol o fod yn byw, gweithio a siopa.  Mae hyn yn golygu y gallwch gael y syniad gorau o'r gyfradd bresennol o heintiau COVID-19 newydd yn eich ardal.

 

Achosion: 819

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 223.2 (Cymru: 208.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,751

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,294.9

Cyfran bositif: 17.2% (Cymru: 16.3% cyfran bositif)

 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 09.11.20

 

Ysgol Uwchradd Caerdydd

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 40 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. 

  

Ysgol Gynradd Gatholig St Alban

Cadarnhawyd bod aelod staff yn achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Gatholig St Alban. Mae 40 o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen a phum aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Severn

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Mlwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Severn. Mae 27 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Tŷ Gwyn

Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn. Mae tri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.      

 

Ysgol Gynradd Willowbrook

Mae disgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Willowbrook wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 60 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.