Back
Hyrwyddo'r mudiad 'Cyflog Byw' gyda baneri yng Nghastell Caerdydd


9/11/20
Mae'r mudiad Cyflog Byw unwaith eto'n cael ei ddathlu yng Nghaerdydd heddiw ar ddechrau'r Wythnos Cyflog Byw flynyddol (9-15 Tachwedd).

 

Mae baneri Cyflog Byw yn cyhwfan yng Nghastell Caerdydd i nodi ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo'r gyfradd gyflogau sy'n seiliedig ar gost wirioneddol byw.

 

Mae'r Cyflog Byw "go iawn" yn gyfradd gyflog fesul awr sy'n cael ei gosod yn annibynnol a'i diweddaru'n flynyddol.  Fe'i cyfrifir yn ôl cost sylfaenol byw yn y Deyrnas Gyfunol a'i nod yw sicrhau na ddylai neb orfod gweithio am lai nag y gallant fyw arno. Eleni, cyhoeddwyd bod cyfraddau Cymru yn £9.50 yr awr, cynnydd ar gyfraddau'r llynedd o £9.30.

 

Cyngor Caerdydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i dalu'r Cyflog Byw go iawn i'w holl staff yn 2012 a dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig yn 2015.   Ers hynny mae Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid wedi bod ar flaen y gadyng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol yn hyrwyddo manteision y Cyflog Byw go iawn.  Y llynedd, daeth Caerdydd i fod yr ail ddinas yn unig yn y DG, a'r brifddinas gyntaf, i ennill statws 'Dinas Cyflog Byw' fel rhan o'r cynllun 'Creu Lleoedd Cyflog Byw'.

 

Fel rhan o'r cynllun, mae cynllun gweithredu tair blynedd a luniwyd gan grŵp o gyflogwyr amlwg yn y ddinas yn cael ei weithredu ar hyn o bryd.   Roedd hyn yn cynnwys tri tharged allweddol:

 

  1. Cynyddu nifer y cyflogwyr Cyflog Byw achrededig o 82 ym mis Ionawr 2019 i 150 erbyn 2022.  Mae Caerdydd ar y trywydd iawn, gyda 117 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn y ddinas sy'n fwy na 45% o gyfanswm Cymru o 258 o gyflogwyr achrededig.

 

  1. Cynyddu cyfanswm nifer y gweithwyr a gyflogir gan gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd o tua 27,250 ym mis Ionawr 2019 i 48,000 erbyn 2022.   Gydag achrediad diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rhagorwyd ar y targed hwn gyda dros 49,000 o bobl bellach yn gweithio i gyflogwyr achrededig yng Nghaerdydd.

 

 

  1. Cynyddu nifer y gweithwyr sy'n cael codiad cyflog o leiaf i'r Cyflog Byw go iawn o tua 4,500 ym mis Ionawr 2019 i 6,500 erbyn 2020. Unwaith eto, rhagorwyd ar hyn hefyd gyda mwy na 7,100 o bobl yn cael codiad cyflog am i'w cyflogwyr ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Grŵp Llywio Dinas Cyflog Byw Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae'r ymagwedd Dinas Cyflog Byw yr ydym wedi'i mabwysiadu'n llwyddiannus yng Nghaerdydd yn cydnabod ac yn defnyddio'r holl sgiliau y mae'r partneriaid perthnasol yn eu cynnig i'r bwrdd.  Mae gennym weledigaeth glir o le yr ydym am i Gaerdydd fod a chynllun gweithredu clir i'n helpu ar y daith honno. 

 

"Nawr yn fwy nag erioed rydym yn cydnabod bod gan y Cyflog Byw go iawn rôl bwysig i'w chwarae o ran gwneud Cymru'n genedl sy'n fwy cyfiawn yn economaidd, o ran hil ac yn gymdeithasol.  Wedi'r cyfan, cyflog ydyw sy'n diwallu anghenion bob dydd pobl.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn gyhoeddus i'n partner Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, am wneud y penderfyniad i fod y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru a achredwyd ar gyfer Cyflog Byw go iawn, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol. Mae pandemig Covid-19 wedi datgelu'r cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr hanfodol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei wneud i'n cymdeithas, ac mae cam o'r fath yn dangos arweiniad ac ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod ein gweithwyr 'hanfodol' yn ennill cyflog sy'n diwallu eu hanghenion bob dydd.

 

"Rwyf wedi clywed drosof fy hun y gwahaniaeth cadarnhaol y mae'r Cyflog Byw go iawn wedi'i wneud i gyflogwyr a gweithwyr.  Felly byddwn yn parhau i hyrwyddo'r Cyflog Byw ac annog cyflogwyr eraill i edrych ar y gwahaniaeth y gall talu'r Cyflog Byw go iawn ei wneud i'w busnesau, enw da eu busnesau a'r ddinas ehangach."

 

Mae gan y Cyngor gynllun achredu Cyflog Byw sy'n cefnogi busnesau lleol bach i ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw i'w gweithwyr eu hunain drwy gynnig cymorth ariannol i'r rhai sy'n dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.    I gael gwybod mwy am y cynllun a'r Cyflog Byw go iawn yna ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Y-Cyflog-Byw/Pages/default.aspx