Back
Diweddariad COVID-19: 11 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (2 Tachwedd - 8 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

10 Tachwedd

 

Achosion: 769

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 209.6 (Cymru: 193.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,861

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,324.9

Cyfran bositif: 15.8% (Cymru: 14.6% cyfran bositif)

 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 11.11.20

Ysgol Gynradd Marlborough

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Marlborough.  Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 5, 28 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 7 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos o'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.