Back
Cyn Gapel y CRI i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a lles i drigolion lleol


12/11/20

Mae gwaith adnewyddu ar y gweill i drawsnewid yr hen Gapel yn y CRI yn gyfleuster iechyd a llesiant bywiog i'r trigolion yn ne a dwyrain Caerdydd. Bydd yr adeilad rhestredig gradd II eiconig yn dod yn gartref i wybodaeth a chyngor iechyd a llesiant, llyfrgell newydd, mannau cyfarfod, ystafell TG a Chaffi Aroma. Er gwaethaf y pandemig parhaus, mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym gyda'r bwriad i ailagor yr adeilad i'r cyhoedd yn gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bydd staff, cleifion sy'n ymweld â chlinigau yn y CRI, ynghyd â theuluoedd, pobl ifanc ac oedolion yn y gymuned, yn elwa ar amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau gan gynnwys defnyddio man hyblyg a rennir lle gallant gael gafael ar wasanaethau cymorth gan asiantaethau partner.

Bydd y datblygiad yn darparu model ar gyfer prosiectau cymunedol yn y dyfodol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, a weithredir drwy gynllun Llunio Ein Lles yn y Dyfodol: Yn ein Rhaglen Seilwaith Cymunedol, gyda'r nod o wella iechyd a lles ein cymunedau.  

Darparwyd cyllid ar gyfer adnewyddu ac ailfodelu gan Gronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Caerdydd ac mae'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y Bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, Cyngor Caerdydd, a Phartneriaid y Trydydd Sector. 

Dywedodd Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae adnewyddu'r hen Gapel yn y CRI wedi bod yn arbennig o gymhleth oherwydd statws rhestredig Gradd II yr adeilad. 

"Fodd bynnag, mae'r dyluniad terfynol yn cyfuno ailfodelu'r gofod mewnol ac allanol tra'n cadw'r nodweddion hanesyddol pwysig i greu cyfleuster hyblyg, aml-ddefnydd. 

"Ar ôl ei gwblhau bydd yr hen Gapel yn darparu adnodd cymunedol gwych a gofod cymdeithasol i staff, cleifion ac ymwelwyr â'r CRI ac i drigolion lleol. 

"Mae hon yn garreg filltir arall yn y cynlluniau i ddatblygu'r CRI fel canolfan iechyd a llesiant i drigolion lleol De a Dwyrain Caerdydd".

Ar ôl ei gwblhau, bydd hen Gapel y CRI yn adnodd gwerthfawr lle gellir cyfeirio cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a'r gymuned leol at wybodaeth a chyngor, gweithgareddau cymdeithasol, dysgu a hamdden perthnasol a hygyrch.

Dwedodd Cath Doman, y Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn y bydd hen Gapel y CRI unwaith eto yn chwarae rhan bwysig wrth ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd.

"Bydd yn lle gwych yng nghanol y gymuned lle gall pobl ddod at ei gilydd, cael paned o de a sgwrs a dod o hyd i wybodaeth am yr ystod enfawr o gymorth sydd ar gael yn lleol. 

"Bydd pob math o adnoddau i helpu pobl i gadw'n dda, yn feddyliol ac yn gorfforol yn ogystal â lle i gysylltu â ffrindiau a chymdogion."

"Er gwaethaf y cyfnod heriol a gawsom yng Nghaerdydd yn ddiweddar, bydd y Capel yn barod ar gyfer y gymuned erbyn y gwanwyn nesaf a hoffwn ddiolch i'r timau am eu gwaith partneriaeth rhagorol.  

"Allwn ni ddim aros i agor y drysau ac rydyn ni'n meddwl y bydd pobl yn hoffi'r hyn maen nhw'n ei weld ac yn ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer i ddod."

Dwedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles:   "Mae prosiect Capel y CRI yn enghraifft wych arall o weithio'n effeithiol mewn partneriaeth ar draws ffiniau sefydliadol er budd pobl yng Nghaerdydd.

"Rwy'n falch iawn o weld y cynllun hwn, sy'n addo bod yn ased gwych i'n cymunedau, yn dwyn ffrwyth." 

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:   "Mae adnewyddu'r hen gapel yn yr ysbyty yn rhoi cyfle cyffrous i ni ddarparu gwasanaethau llyfrgell parhaol i gymunedau Adamsdown a'r Rhath, yn ogystal ag ehangu mynediad i wasanaethau cyngor a phartneriaid eraill drwy eu cydleoli yn yr adeilad eiconig hwn."