Back
Rhaglen uchelgeisiol i godi tai ar y trywydd iawn gyda chynlluniau mawr i adfywio ystadau

 

13/11/20
Mae'r cynnig ailddatblygu ystadau mwyaf a mwyaf cyffrous yn rhaglen adeiladu tai newydd Cyngor Caerdydd ar fin cymryd cam mawr ymlaen, gyda chodi hyd at 400 o gartrefi newydd yn Grangetown.

 

Mae'r bwriad i adfywio ystâd Channel View yn fuddsoddiad o tua £60m yn y rhan hon o'r ddinas a bydd yn darparu lle mwy deniadol i fyw sydd wedi'i gysylltu'n well i drigolion presennol a newydd.

 

Mae'r prif gynllun ailddatblygu yn arddangos pensaernïaeth fodern drawiadol ar gyfer y cartrefi ynni effeithlon carbon isel ar yr ystâd, gwell mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, amwynderau lleol a mannau agored cyhoeddus, yn ogystal â'r potensial ar gyfer cysylltiad cerddwyr a beicio o'r Marl i Barc Hamadryad dros Afon Taf.

 

Bydd tua 360 o gartrefi newydd, cymysgedd o gartrefi preifat a chartrefi'r Cyngor, yn disodli'r 180 eiddo presennol ar yr ystâd gan gynnwys y bloc tŵr 13 llawr sy'n eiddo i'r cyngor.  Bydd o leiaf 60% o'r cartrefi newydd ar gael i'w rhentu gan y Cyngor neu i'w prynu drwy'r Cynllun Perchentyaeth â Chymorth.

 

Cynigir gwelliannau i'r parc presennol (Y Marl) yn ogystal â mannau gwyrddion mawr ychwanegol o fewn y datblygiad newydd. Byddai rhan fach o'r Marl isaf yn cael ei chynnwys yn y cynllun gyda thros 30,000m2 o'r gofod agored presennol yn cael ei wella.

 

Bydd y Cabinet yn ystyried rhoi'r golau gwyrdd i Gam 1 y cynllun fynd rhagddo yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 19 Tachwedd, a fyddai'n cynnwys cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y prif gynllun ailddatblygu a'r cais cynllunio manwl ar gyfer y cam cyntaf.

 

Bydd Cam 1 yn darparu tua 78 o fflatiau un a dwy ystafell wely i bobl hŷn ar draws dau floc yn lle'r un bloc tŵr presennol, a byddent wedi'u lleoli mewn lleoliad nodedig wrth ymyl y parc a'r afon. Byddai'r datblygiad yn un o gynlluniau 'Byw yn y Gymuned' y Cyngor sy'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn y blociau ac o fewn y gymuned ehangach. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae cynllun Trem y Môr yn gyfle gwych i ni nid yn unig fynd i'r afael â nifer o faterion sydd wedi codi ar yr ystâd dros y blynyddoedd diwethaf ond i anadlu bywyd newydd i'r ardal ehangach drwy greu'r math o gartrefi o ansawdd da a chymdogaethau deniadol rydym am eu gweld mewn dinas fodern.

 

"Rydym wedi bod yn siarad â phreswylwyr presennol ers nifer o flynyddoedd ac yn wir, mae ymgynghori'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda chymuned Grangetown i glywed eu barn am ein gweledigaeth gan gynnwys pobl sy'n gweithio ac yn byw yn yr ardal yn ein cynlluniau yn llawn. Cafwyd lefel uchel o gefnogaeth i'r cynigion ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynllun yn symud ymlaen i'r camau nesaf.

 

"Mae wedi bod yn un o'n hamcanion allweddol o gyflawni'r ailddatblygu fesul cam fel bod y preswylwyr presennol yn gallu parhau i fyw ar yr ystâd gan drosglwyddo o'u cartref presennol i eiddo newydd unwaith iddo gael ei godi."

 

 

Mae cynllun Trem y Môr yn rhan bwysig o raglen datblygu tai ehangach y Cyngor sy'n ceisio darparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022 a hyd at 2,700 o gartrefi cyngor newydd yn y tymor hwy.

 

Drwy amrywiaeth o lwybrau cyflenwi gwahanol gan gynnwys rhaglen Cartrefi Caerdydd gyda'r datblygwr Wates Residential, cytundebau pecyn, rhaglen adeiladu ychwanegol Wates ei hun a phrynu eiddo ar y farchnad agored, mae'r Cyngor wedi darparu 381 o gartrefi newydd (hyd at fis Medi 2020).

 

Mae 909 o gartrefi cyngor newydd eraill yn mynd drwy'r broses ddatblygu ar hyn o bryd tra bod gan y rhaglen y gallu i ddarparu 1,650 o gartrefi newydd eraill drwy ei chynlluniau sydd ar y gweill, yn amodol ar gynllunio a chyllid.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae ein dyheadau i adeiladu swm mawr o gartrefi newydd a hynny yn gyflym, yn ategu targed Llywodraeth Cymru o ddarparu tai fforddiadwy newydd ledled Cymru ar gyflymder ac ar raddfa. Rydym yn gwneud cynnydd da iawn i gynyddu nifer y tai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas i ateb lefel uchel y galw."

 

Ar 19 Tachwedd, argymhellir hefyd y dylai'r Cabinet adolygu a chymeradwyo'r cynllun caffael ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y cyngor, gan roi awdurdod i gynnal ymarferion tendro i gontractwyr ar gyfer y cynlluniau hynny y nodwyd y bod eu gwerth dros £5 miliwn o bunnoedd.