Back
Ceisiadau i Ysgolion Cynradd yn agor heddiw ac mae canllawiau ar gael i deuluoedd sy'n gwneud cais am le

16/11/20

Derbynnir ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021 heddiw, (dydd Llun 16 Tachwedd 2020) ac mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i roi arweiniad i rieni sy'n gwneud cais am le.

Mae Tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi llunio 7 awgrym da i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais mewn pryd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Gall y broses ymgeisio am leoedd mewn ysgolion deimlo'n gymhleth ac mae'n bwysig bod gan deuluoedd ddealltwriaeth glir o'r ffordd orau o wneud cais am le. Drwy gwblhau eu cais yn gywir ac yn brydlon byddant yn cynyddu eu siawns o gael lle yn ysgol eu dewis.

"Yn gynharach eleni, lansiom ymgyrch dderbyn i ysgolion newydd i wneud y broses ymgeisio mor syml a thryloyw â phosibl. Mae arwyddion cynnar ar gyfer ceisiadau eilaidd yn dangos bod y canllawiau a gyflwynwyd drwy'r ymgyrch wedi helpu teuluoedd ledled Caerdydd a bod y nifer sy'n gwneud cais yn brydlon wedi cynyddu ers y llynedd. 

Mae hynny'n gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

Mae'r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 gair o gyngor. Mae'n ymdrin â phethau megis:

-    Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig.

-    Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau

-    Yr angen cynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu'r posibilrwydd o gael lle yn ysgol eich dewis gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os chewch gynnig lle yn ysgol eich dewis.

I weld y 7 gair o gyngor a'r animeiddiad ewch i:
https://youtu.be/4ZFJTNMsev8
 

Bydd y cyfnod ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun11Ionawr, 2021. I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:http://www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

Cofiwch nad oes gan eich plentyn hawl awtomatig i gael lle mewn dosbarth derbyn yn yr Ysgol Gynradd sy'n gysylltiedig â'i Ysgol Feithrin. Rhaid gwneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn yn yr Ysgol Gynradd.

Mae'r ymgyrch 7 gair o gyngor Derbyn i Ysgolion ddiweddaraf yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd.

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Tsieceg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Pwyleg, Somalïeg a Bengaleg. Diolch yn arbennig i academyddion Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi'r ymgyrch drwy drosleisio'r animeiddiad mewn ieithoedd eraill.