Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (7 Tachwedd - 13 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
15 Tachwedd
Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd, a thri ym Mro Morgannwg:
Achosion: 567
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 154.5 (Cymru: 164.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,214
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,148.5
Cyfran bositif: 13.5% (Cymru: 13.6% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 16.11.20
Ysgol Uwchradd Corpus Christi
Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi wedi derbyn prawf COVID-19 positif ac mae 32 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl eu henwi fel cysylltiadau agos â'r achos positif o COVID-19.
Ysgol Gynradd Coryton
Mae disgybl Blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Coryton wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 6 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae disgybl ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Llanisien wedi derbyn prawf COVID-19 positif. Mae 303 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a dau aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Arbennig Riverbank
Mae disgybl ac aelod o staff yn Ysgol Arbennig Riverbank wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 13 o ddisgyblion a saith aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Phillip Evans
Mae tri disgybl yn Ysgol Gynradd Gatholig St Phillip Evans wedi derbyn prawf COVID-19 positif ac mae 49 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl eu henwi fel cysylltiadau agos â'r achos positif o COVID-19.