Back
Bydd dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd yn cael eu hadnewyddu a’u hachub

19/11/20

Bydd dyfodol dau adeilad treftadaeth pwysig ym Mae Caerdydd yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth i gynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau perchnogaeth gael eu cymeradwyo.

 

Mae Adeiladau Cory / Merchant Place mewn sefyllfa amlwg ym Mae Caerdydd yn union gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru, ond mae'r ddau wedi bod yn wag ac wedi'u bordio ers dros ddegawd.

 

Mae'r Cyngor yn bwriadu prynu'r adeiladau rhestredig Gradd 2 a bydd yn ceisio cymorth grant i gefnogi costau adnewyddu ac adfywio.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r ddau adeilad pwysig yma wedi bod yn wag am ormod o amser o lawer erbyn hyn. Maent yn sefyll wrth y porth i ardal yr harbwr mewnol gyferbyn ag un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

 

"Mae nifer o bartneriaid datblygu posibl wedi cysylltu â'r Cyngor ac felly rydym yn hyderus y byddwn yn gallu adennill ein gwariant cychwynnol yn llawn wrth gaffael yr adeiladau.Ein bwriad yw i farchnata'r cyfle cyn gynted â phosibl i ddenu datblygwr i gyflymu'r gwaith o gwblhau'r prosiect."

 

"Mae'r adeiladau'n eistedd ar y croesffyrdd rhwng yr Harbwr Mewnol ac ardal Glanfa'r Iwerydd, a'r rhain y byddwn yn canolbwyntio arnynt wrth i ni geisio gweithredu'r cam nesaf o adfywio Bae Caerdydd. Mae gennym uchelgais i sefydlu Bae Caerdydd fel prif gyrchfan ymwelwyr yn y DU, i ddenu mwy o ymwelwyr i Gaerdydd ac i ddarparu swyddi a chyfleoedd i bobl leol. Cwblhau'r Arena Dan Do newydd â chapasiti o 15,000 yw dechrau'r cynlluniau hyn."

 

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn parhau i fod â meddwl agored am gynigion ar gyfer yr adeiladau, a allai gynnwys cymysgedd o swyddfeydd, unedau preswyl, gwesty a llefydd bwyd a diod.