Back
Diweddariad COVID-19: 19 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Tachwedd - 16 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

18 Tachwedd

 

Achosion: 592

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 161.4 (Cymru: 164.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,273

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,164.6

Cyfran bositif: 13.9% (Cymru: 12.9% cyfran bositif)

 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 19.11.20

 

Ysgol Bro Edern

Mae dau ddisgybl wedi derbyn prawf COVID-19 positif yn Ysgol Bro Edern, un ym Mlwyddyn 11 ac un ym Mlwyddyn 12. Mae 87 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achosion positif o COVID-19.

Ysgol Gynradd Hawthorn

Mae aelod o staff yn y ddarpariaeth ar ôl ysgol yn Ysgol Gynradd Hawthorn wedi profi'n gadarnhaol am COVID-19. Mae pump o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 5 o ddisgyblion Blwyddyn 5 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Howardian

Mae disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Howardian wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 61 o ddisgyblion a phump aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Radnor

Mae disgybl o'r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Radnor wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae 20 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen

Mae dau ddisgybl a dau aelod o staff yn Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 222 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 1 i 4 a 12 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 30 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Uwchradd Willows

Mae disgybl yn Ysgol Uwchradd Willows wedi cael prawf COVID-19 positif Mae 6 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.