Back
Bydd Stryd y Castell yn ailagor i fysiau, tacsis a cherbydau argyfwng ar 29 Tachwedd

25/11/20 
Mae'r Cyngor yn bwriadu ailagor Stryd y Castell i fysiau, tacsis a cherbydau argyfwng fel mesur dros dro ar Ddydd Sul 29 Tachwedd tra cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa.

Bydd yr ailagor yn helpu bysiau a thacsis i groesi o'r dwyrain i'r gorllewin ac o'r gorllewin i'r dwyrain yn fwy effeithiol yn ystod y gwaith ffordd parhaus yng nghanol y ddinas.

Bydd y dyluniad dros dro hwn yn sicrhau y bydd y beicffordd dros dro - a fydd yn rhedeg o Heol Lecwydd ar hyd Heol Casnewydd hyd at y gyffordd â Heol Lydan (Broadway) - yn cael ei gadw drwy gydol yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys ymestyn y palmant wrth ochr y siopau a'r bariau gyferbyn â'r castell allan i'r ffordd i roi rhodfa ehangach i bobl allu cadw pellter cymdeithasol. Bydd hefyd yn creu cyfle i fusnesau lletygarwch gael mwy o le y tu allan i'w hadeiladau i fasnachu.

Golyga'r cynlluniau y byddai Stryd y Castell yn cynnwys dwy lôn i fysiau a thacsis deithio i'r dwyrain a/neu'r gorllewin, a byddai'r feicffordd dros dro wrth y castell yn aros.

Mae gwaith wedi'i wneud hefyd ar Heol y Porth, i ymestyn y palmant i roi lle ychwanegol y tu allan i fariau a bwytai, tra'n sicrhau bod digon o le ar y ffordd i fysiau a thacsis deithio fyny ac i lawr Heol y Porth ymlaen i Stryd y Castell.

Mae'r cynllun yn cael ei osod ar ddiwedd mis Tachwedd, fel bod ymgyfarwyddo cyn i dymor y Nadolig ddechrau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cau Stryd y Castell wedi rhannu barn, gyda dadleuon cryf yn cael eu gwneud o blaid ac yn erbyn y newidiadau a weithredwyd yn ystod y misoedd diwethaf. 

"Ynghyd ag ymarferiad modelu manwl ar lif traffig yn y dyfodol, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr, yn cynnwys busnesau canol dinas, trigolion lleol a dinasyddion ledled Caerdydd, er mwyn helpu i bennu'r cynllun terfynol ar gyfer y stryd."

Mae Cyngor Caerdydd yn monitro tagfeydd ac ansawdd aer ar draws canol y ddinas.  Bydd yn cynnal gwaith modelu manwl ar unrhyw gynlluniau hirdymor, a fydd yn helpu i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol mewn wardiau cyfagos.