Back
Sefydlu Arglwydd Faer newydd Caerdydd
26/11/20

Sefydlwyd Arglwydd Faer newydd Caerdydd mewn cyfarfod y Cyngor Llawn heddiw (26 Tachwedd) fel y Cynghorydd Rod McKerlich.

Mae'r Cynghorydd McKerlich, a fydd yn cael ei gefnogi yn ystod ei gyfnod yn y swydd gan y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Lyn Hudson, wedi dewis Cymdeithas Alzheimer’s Cymru fel Elusen yr Arglwydd Faer eleni.

Wedi'i eni yn Perth yn yr Alban, symudodd y Cynghorydd McKerlich i Radur ym 1974 i weithio yn y diwydiant papur a phecynnu. Gweithiodd tan iddo ymddeol fel Cyfarwyddwr â gofal grŵp o gwmnïau yn yr hyn sydd bellach yn gwmni rhyngwladol mawr ac yn un o'r ailgylchwyr papur mwyaf yn y byd. 

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd McKerlich:  "Mae cael fy newis yn Arglwydd Faer Caerdydd yn anrhydedd fawr ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wasanaethu fel Prif Ddinesydd Caerdydd yn y flwyddyn i ddod.

"Un o'r pleserau o fod yn Arglwydd Faer yw'r cyfle i gefnogi elusen ac ni allaf feddwl am achos gwell na Chymdeithas Alzheimer’s Cymru.

"Fel llawer o bobl mae gennyf brofiad personol o’r heriau sy’n dod llaw yn llaw â’r clefyd Alzheimer’s, ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor fuddiol y gall cefnogaeth elusen ymroddedig, drefnus fel Cymdeithas Alzheimer’s Cymru fod, a gobeithio y bydd y gwaith rwy'n ei wneud yn y flwyddyn i ddod yn ei galluogi i gefnogi llawer o bobl eraill yn y dyfodol."

Ynghyd â'i wraig Sue, y mae ganddynt dri o blant a saith o wyrion, mae'r Cynghorydd McKerlich yn gefnogwr brwd o weithgareddau lleol, yn enwedig Gŵyl Flynyddol Radur.

Yn ogystal â bod yn gyn-lywodraethwr Ysgol Gyfun Radur a llywodraethwr presennol Ysgol Gynradd Radur, mae'r Cynghorydd McKerlich wedi bod yn ymwneud yn helaeth â Chymuned Radur, gan gynnwys cyfnod yn Gapten Clwb Golff Radur, Cadeirydd Clwb Tenis Radur ac Is-lywydd Clwb Criced Radur ers blynyddoedd lawer. Mae wedi cynrychioli ward Radur a Threforgan yn y ddinas ers 2008. 

Bydd yr holl arian a godir ar gyfer elusen ddewisol yr Arglwydd Faer yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghaerdydd a ledled Cymru a helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol fel 'Cyswllt Dementia' - canolfan ffôn i sicrhau nad yw pobl sy'n byw gyda Dementia yn cael eu hanghofio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Alzheimer’s Cymru, ewch i: https://www.alzheimers.org.uk/

I gyfrannu arian, anfonwch sieciau, os gwelwch yn dda, yn daladwy i ‘Elusen Arglwydd Faer Cyngor Caerdydd’ i:

Y Swyddfa Brotocol
Y Plasty
Heol Richmond
Caerdydd 
CF24 3UN

Os hoffech drefnu digwyddiad codi arian ar gyfer Elusen yr Arglwydd Faer, ffoniwch 029 20871543 neu e-bostiwch  swyddfabrotocol@caerdydd.gov.uk