Back
Arena Dan Do Gam yn Nes

27/11/20

 

Nodi Live Nation fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer arena dan do â 15,000 sedd ym Mae Caerdydd

Bydd y lleoliad newydd a gynllunnir yn costio tua £150m i'w adeiladu a bydd yn denu mwy na miliwn o ymwelwyr ac amcangyfrif o £100m i'r economi leol bob blwyddyn. Bydd hefyd yn dod â swyddi newydd i bobl leol. Bydd dros 2000 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y rhaglen adeiladu tair blynedd a phan fo'r arena ar waith, bydd 1000 o swyddi uniongyrchol a 600 o swyddi eraill yn cael eu cefnogi yn yr economi leol.

Ers mis Rhagfyr y llynedd mae'r Cyngor wedi datblygu proses gaffael i gael partner o'r sector preifat ac mae dau gynnig bellach wedi dod i law i ddarparu lleoliad gyda'r gorau yn y DU a fydd yn galluogi'r ddinas i gynnal digwyddiadau o bob maint. Mae Robertson hefyd yn y consortiwm a arweinir gan Live Nation.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn dal i ymrwymo i ddarparu arena dan do newydd a heddiw rydym wedi cymryd cam mawr ymlaen. Credwn y bydd yr arena newydd yn cael effaith debyg ar Fae Caerdydd ag a gafodd Dewi Sant 2 ar ganol y ddinas. Bydd yn gweithredu fel catalydd pwysig ar gyfer cam nesaf adfywio Bae Caerdydd gan ddarparu swyddi a chyfleoedd newydd lle mae eu hangen fwyaf. Bydd hefyd yn helpu gyda'r achos i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â Bae Caerdydd a bydd yn rhoi hwb i ail-ddychmygu ardal Canolfan y Ddraig Goch yn llwyr. Mae'n gyfle hynod gyffrous i Gaerdydd, yn enwedig wrth i ni geisio codi o ddifrod economaidd y pandemig.

"Rwy'n gwybod y bydd lleisiau'n gofyn "sut y gall y Cyngor fforddio bod yn rhan o brosiect fel hwn ar hyn o bryd", dyna pam y mae'n bwysig eu bod yn gwybod bod hwn yn gynnig a arweinir gan y sector preifat y mae'r Cyngor yn ei gefnogi. Mae hynny'n golygu y bydd y sector preifat yn talu'r gyfran fwyaf o'r costau ac yn cymryd y mwyafrif helaeth o'r risg sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiect hwn. Bydd ymrwymiad cyfalaf y Cyngor yn llai na 15% a gallai fod yn sylweddol is erbyn diwedd y broses, ac yn hytrach byddwn yn defnyddio cryfder ein cyfamod i alluogi ein partner i gael cyllid ar gyfradd fwy fforddiadwy."

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo adroddiad ddoe (26 Tachwedd) sy'n awdurdodi paratoi'r dyluniadau manwl terfynol a'r costau cyn fynd i gontract datblygu yn yr haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Bydd yr Arena yn agos at lawer o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd ac rydym am i'r cymunedau hynny elwa o'r cyfleoedd gwaith a fydd ar gael. Mae'r Cyngor wedi sicrhau ymrwymiadau y bydd swyddi a hyfforddiant ar gael i bobl leol drwy gydol gwaith adeiladu'r arena a hefyd pan fo ar agor i fusnes. Bydd ffocws allweddol ar helpu pobl ddi-waith i gael gwaith ac ymgysylltu â'r rhai sy'n gadael yr ysgol drwy gynnig cyfleoedd dechreuwyr, prentisiaeth a chyflogaeth i raddedigion. Mae'n bwysig iawn bod preswylwyr yn elwa o'r prosiect hwn."

Er gwaethaf yr effaith COVID-19 ar gerddoriaeth fyw ac adloniant, mae Live Nation sy'n - yn hyderus iawn o wydnwch hirdymor y sector. Mae'r sector yn parhau i ddangos hyder ar gyfer y dyfodol gyda datblygiadau i'r arena newydd yn parhau i gael eu cyhoeddi ac mae tocynnau'n dal i gael eu gwerthu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Goodway: "Strategaeth y ddinas yw sefydlu Arena Caerdydd fel arena dosbarth uchaf y DU a'i gwneud yn brif arena rhanbarth de-orllewin Cymru a Lloegr

"Mae Sound Diplomacy - yr ymgynghorwyr byd-enwog ar y diwydiant cerddoriaeth - yn credu y bydd yr arena hefyd yn dod yn elfen sylfaenol o strategaeth 'Dinas Gerdd' Caerdydd. Maent yn dweud y bydd yn cael 'effaith gadarnhaol ar bob lefel o'r ecosystem gerddoriaeth fyw, o'r lleoliadau ar lawr gwlad i'n prif fannau' a bydd yn cefnogi datblygiad diwydiant cartref.

Bydd Arena Dan Do newydd Caerdydd hefyd yn canolbwyntio'n gryf ar gynaliadwyedd a bydd yn anelu at fod yn un o'r lleoliadau gwyrddaf o'i fath yn y DU. I ddechrau, bydd yn elwa o wres carbon isel a gynhyrchir drwy'r Rhwydwaith Gwres Ardal arfaethedig a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i gyflawni'r nod o ddatblygiad di-garbon net ar draws ardal adfywio ehangach Glanfa'r Iwerydd.

 

FFIGYRAU ARENA CAERDYDD

Capasiti 15,000

12,000 sedd

£150m i'w hadeiladu

1m o ymwelwyr y flwyddyn

Amcangyfrif o 140 o ddigwyddiadau'r flwyddyn

Cynhyrchu £100m ar gyfer yr economi leol y flwyddyn

1500-2000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu

1000 o swyddi Arena pan fo ar agor

Creu 600 o swyddi yn lleol