Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 1 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: ailblannu coed Stryd y Castell i wella gorchudd coed yn Butetown; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a Cyfnod Nadolig Caerdydd - edrych yn ôl ar #GweithioDrosGaerdydd

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Ailblannu coed Stryd y Castell i wella gorchudd coed yn Butetown

Mae 14 o goed a osodwyd ar Stryd y Castell fel rhan o Gaffi Cwr y Castell wedi'u hailblannu'n barhaol mewn parc yng Nghaerdydd.

Mae'r coed Gellyg Callery addurnol wedi cael eu defnyddio i greu rhodfa dan gysgod coed ym Mharc Hamadryad yn Butetown, ardal sydd â'r ganran isaf o orchudd coed yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Bydd pedair coeden arall yn cael eu hychwanegu at y llwybr yn ystod wythnos Plannu Coed Genedlaethol, sy'n dechrau ar 28 Tachwedd.

Mae wythnos Plannu Coed Genedlaethol yn nodi dechrau rhaglen plannu coed flynyddol y Cyngor, a fydd eleni, gyda chymorth cyllid gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd a'r elusen Trees for Cities, yn gweld tua 150 o goed trwm safonol yn cael eu plannu ar strydoedd a pharciau'r ddinas.

Mae 1,000 o goed hefyd yn cael eu plannu ar safleoedd ysgolion i nodi lansiad strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, a bydd 1,000 o goed eraill yn cael eu plannu yng ngwarchodfeydd natur a choetiroedd Caerdydd ac o'u cwmpas.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Pan ddaeth y trefniadau dros dro ar Stryd y Castell i ben roeddem yn awyddus i sicrhau bod cartrefi newydd, parhaol yn cael eu canfod ar gyfer y coed.

"Bydd y llwybr newydd hwn o goed yn ychwanegiad deniadol i'r parc, ond yn bwysicach na hynny mae hefyd yn gam bach tuag at gyflawni'r nod a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar fel rhan o'n Strategaeth Caerdydd Un Blaned mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, o gynyddu arwynebedd gorchudd coed yng Nghaerdydd i 25% erbyn 2030.

"Ers dechrau'r tymor plannu coed yn 2017 rydym wedi plannu mwy na 3,000 o goed yng Nghaerdydd a'r tu allan iddi. Rydym yn plannu mwy na 2,000 eleni a'n bwriad yw plannu llawer mwy wrth i ni yrru Caerdydd tuag at fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030."

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Tachwedd - 28 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

30 Tachwedd

 

Achosion: 807

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 219.9 (Cymru: 217.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,179

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,684.1

Cyfran bositif: 13.1% (Cymru: 13.0% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 01.12.20

Ysgol Gynradd Gladstone
 Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gladstone. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Uwchradd Fitzalan
Mewn ymateb i gynnydd mewn achosion positif o COVID-19 wedi eu cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, bydd yr holl addysgu yn symud ar-lein am weddill yr wythnos, ac eithrio grwpiau o ddysgwyr sy'n agored i niwed. Bydd yr ysgol yn adolygu'r sefyllfa yfory gyda swyddogion Iechyd a Diogelwch, a bydd yn rhoi gwybod am unrhyw ddiweddariadau i ddisgyblion a rhieni maes o law.

Ysgol Gynradd Parc Ninian
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Parc Ninian. Mae 28 o ddisgyblion o'r dosbarth Derbyn, 1 disgybl o Flwyddyn 2 ac 1 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Cyfnod Nadolig Caerdydd - Edrych yn ôl ar #GweithioDrosGaerdydd

Mae mis Mawrth 2020 yn teimlo fel amser maith yn ôl, ac er bod edrych yn ôl ar eleni yn anodd mewn sawl ffordd, mae mis Rhagfyr i lawer yn dal i fod yn gyfle i fyfyrio.

Drwy'r holl drawma, colled, trybini ac ansicrwydd a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws, mae'r gorau o Gaerdydd i'w weld o hyd gyda thrigolion yn cyd-dynnu i wneud eu gorau dros eu teuluoedd a'r ddinas.

Rydyn ninnau wedi gwneud ein gorau glas i chwarae ein rhan hefyd, gyda thimau o bob rhan o'r cyngor yn dod at ei gilydd, yn ymgymryd â rolau newydd, #GweithioDrosGaerdydd #GweithioDrosochChi mewn ymgais i ddelio ag effeithiau COVID-19 ar y ddinas.

Ers dechrau'r cyfnod cloi cyntaf ym mis Mawrth, rydym wedi rhannu mwy na 200 o straeon o'r rheng flaen, gan gipio rhywfaint o'r gwaith y mae Cyngor Caerdydd wedi'i wneud ers i'r pandemig gyrraedd.

Mae'r ymateb i'r straeon hynny wedi bod yn anhygoel, felly drwy gydol y mis hwn, wrth i ni baratoi i ffarwelio â 2020, roeddem yn meddwl y byddem yn edrych yn ôl ac yn rhannu rhai o'r straeon hynny a welodd gymunedau a thimau'r cyngor yn cyd-dynnu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eu gweld eto, ond yn bennaf oll, dyma ein ffordd o ddweud diolch i bob un ohonoch a ymunodd ac a gymerodd amser allan o'ch bywydau prysur i anfon negeseuon o gefnogaeth yn gysylltiedig â'r straeon hyn.

#CyfnodNadoligCaerdydd