Back
Diweddariad COVID-19: 7 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Tachwedd - 04 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

06 Rhagfyr

 

Achosion: 1,295

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 353.0 (Cymru: 308.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 7,864

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,143.3

Cyfran bositif: 16.5% (Cymru: 15.9% cyfran bositif)

 

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng:

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 07.12.20

 

Ysgol Gynradd Adamsdown

Mae dau aelod staff yn Ysgol Gynradd Adamstown wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 49 o ddisgyblion Meithrin a phum aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Gynradd Baden Powell

Mae aelod staff Yn Ysgol Gynradd Baden Powell wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 5 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Yng Nghymru Esgob Llandaf

Mae disgybl Blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yn wedi cael prawf COVID-19 positif. Bydd pob disgybl Blwyddyn 7 yn hunanynysu yfory tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i gysylltiadau.

 

Ysgol Bro Edern

Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Edern wedi profi'n bositif am COVID-19. Bydd pob disgybl Blwyddyn 8 yn hunanynysu heddiw tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i gysylltiadau.

 

Ysgol Uwchradd Caerdydd

Mae un disgybl Blwyddyn 9 a dau ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae cyfanswm o 376 o ddisgyblion (240 Blwyddyn 11, 14 Blwyddyn 13, a 120 Blwyddyn 9) wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.   

 

Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd

Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 95 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Cathays wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 150 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Creigiau

Mae disgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Creigiau wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 30 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Uwchradd Corpus Christi

Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 20 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl eu henwi fel cysylltiadau agos â'r achos positif o COVID-19.   

 

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae disgybl Blwyddyn 7 a dau aelod staff yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 38 o ddisgyblion a dau aelod staff arall wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gynradd Hawthorn

Oherwydd profion cadarnhaol, hunanynysu, salwch a disgwyl profion ymhlith staff, bydd Ysgol Gynradd Hawthorn ar gau i bob disgybl ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon. Yn dilyn asesiad risg pellach y gobaith yw y bydd pob disgybl, ac eithrio disgyblion Blwyddyn 1 a Derbyn sy'n hunanynysu, yn ôl yn yr ysgol ddydd Mercher.

 

Ysgol Gynradd Howardian

Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Howardian wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 54 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Kitchener

Mae disgybl Blwyddyn 1 ac un athro yn Ysgol Gynradd Kitchener wedi cael prawf COVID-19 positif.  Mae 56 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 a phum aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Lakeside

Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Lakeside wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 60 o ddisgyblion a chwe aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Marlborough

Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Marlborough wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 18 o ddisgyblion y Ganolfan Adnoddau Arbenigol a chwe aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

 

 

 

Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog

Mae disgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae holl ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

 

Ysgol Gynradd Meadowlane

Mae disgybl Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Meadowlane wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 42 o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

 

Ysgol Gynradd Oakfield

Mae disgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Oakfield wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 28 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gynradd Pen-y-bryn 

Mae dau aelod staff yn Ysgol Gynradd Pen-y-bryn wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 116 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Plasmawr

Mae disgybl Blwyddyn 12 a disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Plasmawr wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 24 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gyfun Radur

Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Radur wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 65 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

 

Ysgol Gynradd Severn

Mae disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Severn wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 27 o ddisgyblion a phedwar aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Illtud Sant wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 171 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gynradd Sant Philip Evans

Mae aelod staff Ysgol Gynradd Philip Evans wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 55 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae pum disgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi profi'n bositif am COVID-19 (un disgybl ym mhob un o Flwyddyn 7, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 a Blwyddyn 12). Mae 81 o ddisgyblion Blwyddyn 7, 31 Blwyddyn 9, 43 Blwyddyn 10, 53 Blwyddyn 11, a 12 disgybl Blwyddyn 12, ynghyd â thri aelod o staffwedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Uwchradd Willows

Mae disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Willows wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 23 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. 

 

Ysgol Gynradd Windsor Clive

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Windsor Clive wedi cael prawf COVID-19 positif.  Mae 23 o ddisgyblion y Dosbarth Derbyn a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.