Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 8 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Dug a Duges Caergrawnt yn dod i Gastell Caerdydd; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a Gweithgareddau a digwyddiadau lles yn hybiau'r ddinas.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Dug a Duges Caergrawnt yn dod i Gastell Caerdydd

Bydd myfyrwyr o dair prifysgol yn Ne Cymru yn cwrdd â Dug a Duges Caergrawnt yng Nghastell Caerdydd y bore yma.

Yn rhan o daith 48 awr, mae Dug a Duges Caergrawnt wedi dod i Gaerdydd i gwrdd â myfyrwyr prifysgol lleol i glywed am rai o'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl. 

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru'n cwrdd â'r ddau i drafod eu profiadau'n ystod pandemig COVID-19 a sut mae'r prifysgolion ac undebau myfyrwyr wedi'u cefnogi gyda'u hiechyd meddwl, mewn blwyddyn heriol iawn.

Cyfarfu'r Dug â'r Dduges grwpiau o fyfyrwyr i fwynhau hwyl yr ŵyl yn y castell gan gadw pellter cymdeithasol, tra'n mwynhau perfformiad gan ‘Samba Galez', band samba hynaf Cymru, sydd wedi cael eu cefnogi'n ystod y pandemig drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth y DU.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Tachwedd - 28 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

07 Rhagfyr

 

Achosion: 1,417

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 386.2 (Cymru: 326.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 8,209

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,237.4

Cyfran bositif: 17.3% (Cymru: 16.2% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 08.12.20

Ysgol Gynradd Sant Cadog

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Sant Cadog. Mae 57 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 6 a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cathays. Mae 95 o ddisgyblion Blwyddyn AS ac A2 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.   

Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dewi Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant. Mae 45 o ddisgyblion Dosbarth Meithrin a Blwyddyn 2 a 5 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd Rhiwbeina
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 1 ac un aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd Severn
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Severn. Mae 84 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a Dosbarth Derbyn a 9 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Tredelerch
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Tredelerch. Mae 60 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf. Mae 48 o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd Adamsdown
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Adamsdown. Mae 49 o ddisgyblion Meithrin a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a 2 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 5 disgybl Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Gweithgareddau a digwyddiadau lles yn hybiau'r ddinas

Bydd nifer o ddigwyddiadau a gwasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu hailgyflwyno yn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd Caerdydd fesul cam o'r wythnos nesaf ymlaen.

Gan ddechrau o ddydd Llun, 7 Rhagfyr, bydd digwyddiadau cymunedol awyr agored a dan do, gweithgareddau hamdden a sesiynau dysgu neu hyfforddi, a fydd i gyd yn glynu'n gaeth at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar COVID-19, yn cael eu hailgyflyno fel rhan o'r broses barhaus o adfer gwasanaethau yn y ddinas.

Mae gwasanaethau hanfodol i bobl sydd angen cymorth a chyngor wedi'u darparu gan gyfleusterau'r Cyngor drwy gydol y pandemig gyda'r ddarpariaeth yn addasu ac yn ymateb i sefyllfa sy'n newid yn barhaus.  Mae mwy a mwy o wasanaethau wedi hailgyflwyno dros y misoedd diwethaf, gyda ffocws cryf ar ddarpariaeth ddigidol, a darpariaeth wyneb yn wyneb ar frys pan fo angen.

Mae ailgyflwyno gwasanaethau pellach, a fydd yn cynnwys gweithgareddau fel ymgyrchoedd casglu sbwriel cymunedol, grwpiau garddio, clybiau llyfrau, grwpiau Cyfeillion a Chymdogion a chyrsiau hyfforddi, yn cydnabod, er bod darparu gwasanaethau'n ddigidol wedi bod yn achubiaeth i lawer dros yr wyth mis diwethaf, nad dyma'r ateb i bob cwsmer.

A nawr bod y gaeaf ar ein gwarthau, gallai effaith unigedd cymdeithasol ar iechyd a lles trigolion ledled y ddinas, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed, fod yn niweidiol iawn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25376.html