Back
Tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn cyrraedd rowndiau terfynol gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r tîm Gwasanaethau Profedigaeth penigamp yng Nghyngor Caerdydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus 2020, yn y categori 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Mynwentydd ac Amlosgfeydd.

Yn 2020 mae Mynwent Thornhill eisoes wedi cael ei henwi yn ‘Fynwent y Flwyddyn,' gan ennill yr anrhydedd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael: “Mae cyrraedd rowndiau terfynol y gwobrau yma, ar ben cael eu henwi yn Fynwent y Flwyddyn, ac yn wyneb yr heriau sylweddol a gyflwynir gan Covid-19, yn gydnabyddiaeth wych i’r tîm ac yn dyst i’r gwaith ardderchog y maent yn ei wneud dros Gaerdydd. Byddaf yn croesi fy mysedd y cawn ni newyddion da pan gaiff y gwobrau eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.”

Mae Tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn delio â mwy na 4,500 o angladdau bob blwyddyn. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gydnabod fel gwasanaeth safon aur yn Asesiad safonol Siarter y Profedigaethus ICCM y DU ac mae ganddo sgôr o 99% o ran boddhad cwsmeriaid.