Back
Y wybodaeth ddiweddaraf - Safbwynt Caerdydd ar ddyddiadau Nadolig ysgolion Cynradd ac Uwchradd

10/12/20

Heddiw, ddydd Iau 10 Rhagfyr, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddo coronafeirws'.

Yng Nghaerdydd rydym bellach wedi penderfynu y bydd pob Ysgol Gynradd hefyd yn gorffen dysgu wyneb yn wyneb ar ddiwedd y dydd ddydd Mawrth 15 Rhagfyr.

Bwriad hyn yw galluogi disgyblion i aros gartref yn y cyfnod cyn y Nadolig er mwyn ceisio atal y cynnydd mewn cyfraddau heintio.

Mae ysgolion yng Nghaerdydd yn cael cymorth i gyflwyno dysgu cyfunol drwy gydol y cyfnod hwn. Mae darpariaeth ddigidol sylweddol eisoes wedi'i rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys mwy na 11,500 o ddyfeisiau digidol a 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G, y mae'r Cyngor wedi'u dosbarthu i ddisgyblion fel y gallant gyrchu dysgu ar-lein pan fydd ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog yn glir, diolch i ymdrechion staff addysg ledled y wlad, fod ysgolion a cholegau yn amgylcheddau saff a diogel, ac mae bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael yr un achos o COVID ers mis Medi.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gwaith caled a'r mesurau ataliol y mae ysgolion yn glynu wrthynt er mwyn lleihau lledaeniad y feirws, a'r ymdrechion gan ysgolion i ymateb i achosion a gadarnhawyd, mae nifer yr achosion yn y gymuned wedi parhau i godi.

Yn y pythefnos diwethaf ledled Caerdydd rydym wedi gweld niferoedd o achosion positif yn codi'n sylweddol ac yn sgil hynny, cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n gorfod hunanynysu o ganlyniad.

Yn wir, mae 36% o'r holl achosion yng Nghaerdydd wedi digwydd yn ystod y pythefnos diwethaf. Mae ein rhagfynegiadau'n dangos y gallai un o bob chwech o'n disgyblion orfod hunanynysu os bydd y niferoedd yn parhau i godi ar y gyfradd bresennol

Mae'r cynnydd sylweddol hwn mewn heintiau hefyd wedi effeithio ar nifer y staff sydd angen hunanynysu. Felly, ar ôl monitro'r sefyllfa'n ofalus, y bwriad yw y bydd ysgolion cynradd yng Nghaerdydd hefyd yn symud i ddarpariaeth dysgu ar-lein o ddydd Mercher, 16 Rhagfyr.

Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu cyngor diweddar gan y Grŵp Cynghori Technegol ar bwysigrwydd cyfnod hunanynysu i deuluoedd cyn llacio'r cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig.

Bydd yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd hunanynysu am 10 diwrnod yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig, yn unol â deddfwriaeth hunanynysu newydd Llywodraeth Cymru, gan alluogi plant i weld neiniau a theidiau ac aelodau o'r teulu yn ddiogel.  

Bydd dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, hefyd yn helpu i leihau nifer yr achosion mewn ysgolion yn y system Profi, Olrhain, Diogelu (POD). Bydd hyn yn rhyddhau mwy o adnoddau i sicrhau y gall POD ganolbwyntio ar reoli achosion cymunedol dros gyfnod y gwyliau.

Disgwylir i ddarpariaeth ysgolion ar gyfer disgyblion a nodwyd gan ysgolion fel rhai sy'n agored i niwed ac sydd angen cymorth ychwanegol barhau tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr ym mhob ysgol. Dylai'r ysgolion hynny sydd wedi cynllunio HMS yn ystod wythnos olaf y tymor barhau â'r cynlluniau hynny.

Mae'n hanfodol bwysig bod rhieni a theuluoedd yn gwneud eu gorau glas i ddilyn canllawiau cenedlaethol COVID-19 tra nad yw plant yn yr ysgol ac yn manteisio ar y cyfle hwn i weld cyn lleied o bobl â phosibl yn y cyfnod cyn y Nadolig.