Back
Cynlluniau ar gyfer cartrefi a chyfleusterau cymunedol newydd yn Nhreganna a Glanyrafon

 

11.12.20
Mae cynlluniau cyffrous wedi eu datgelu i ailddatblygu cyfleuster cymunedol yn Nhreganna yn ardal o dai deniadol a hygyrch i bobl hŷn a chyfleusterau cymunedol cynaliadwy a gwell.

 

Mae'r Cyngor am glywed barn pobl sy'n byw yn Nhreganna a Glanyrafon am ei gynnig i fuddsoddi'n sylweddol mewn canolfan gymunedol newydd sbon, cartrefi newydd i bobl hŷn, ardal gemau aml-ddefnydd newydd a man gwyrdd cymunedol ar safle Neuadd Gymunedol Treganna.

 

Byddai ailddatblygu safle Heol Lecwydd yn creu cynllun Byw yn y Gymuned newydd - gan gynnig tua 40 o fflatiau mawr a hygyrch ag un a dwy ystafell wely i hyrwyddo byw'n annibynnol, mannau a rennir i breswylwyr allu cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a chynnig Hyb gwasanaethau pobl hŷn i'r gymuned ehangach.

 

Byddai llawr gwaelod y datblygiad yn cynnig man cymunedol modern o ansawdd uchel newydd i bobl a grwpiau ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau neu ei logi ar gyfer achlysuron arbennig. Byddai'r Ardal Gemau Aml-ddefnydd bresennol (AGADd) ger y neuadd gymunedol, sy'n boblogaidd gyda phobl ifanc yn yr ardal, yn cael ei hadleoli i ardal bresennol y maes parcio.

 

Byddai mannau gwyrdd deniadol, gan gynnwys gardd gymunedol i breswylwyr a'r gymuned ehangach, gyda llwybrau diogel drwy'r ardal yn cwblhau'r gwaith ailddatblygu, gan greu ardal glustogi werdd i'r prif ffyrdd a'r mannau parcio cyfagos.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydym yn awyddus iawn i glywed barn pobl ar y cynlluniau cyffrous hyn i ailddatblygu Neuadd Gymunedol Treganna. Mae hwn yn lleoliad gwych ar gyfer mwy o lety i bobl hŷn y mae mawr ei angen, yng nghanol y gymuned leol, yn agos at y siopau a'r cyfleusterau ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

 

"Bydd y cartrefi newydd yn helpu i hyrwyddo byw'n annibynnol, gan alluogi pobl hŷn i fyw'n dda yn eu cartrefi eu hunain am hirach a'u cefnogi i gadw mewn cysylltiad â'u cymuned, gyda gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle.

 

"Byddai'r cynlluniau'n cynnig man cyhoeddus llawer gwell i bobl yn Nhreganna a Glanyrafon ei ddefnyddio yn ogystal â chreu amgylchedd gwyrddach, mwy diogel a mwy dymunol yn yr ardal leol."

 

Oherwydd y rheoliadau Covid-19 presennol, nid yw'r Cyngor yn gallu ymgynghori wyneb yn wyneb ag aelodau o'r gymuned leol ond mae'n annog pobl i ddysgu mwy am y cynigion drwy fynd iwww.adfywiocymunedaucaerdyddac i ddweud eu dweud drwy lenwi'r ffurflen sylwadau ar-lein.

 

Gellir e-bostio safbwyntiau hefyd idatblygutai@caerdydd.gov.ukGall unrhyw un sydd am drafod y cynigion gydag aelod o'r tîm anfon e-bost i'r cyfeiriad hwn i ofyn am alwad yn ôl.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 21 Rhagfyr.  Caiff yr holl adborth a gyflwynir yn ystod yr ymgynghoriad ei adolygu cyn llunio'r cynnig terfynol.