11/12/20
Bydd adroddiad sy'n argymell cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ad-drefnu a buddsoddi mewn darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 17 Rhagfyr.
Gyda'r nod o gydbwyso'r ddarpariaeth ar gyfer darpariaeth ysgolion cynradd cymunedol Cymraeg a Saesneg, byddai'r cynigion yn cynnwys:
Mae'r nifer sy'n manteisio ar leoedd ar safle Ysgol Gynradd Allensbankwedi bod yn gyson is na nifer y lleoedd sydd ar gael a rhagwelir y bydd y lefel uchel o warged yn parhau. Panfo nifer y lleoedd mewn ysgolion yn uwch na'r angen, mae cyfle i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon i wella ansawdd addysg pob dysgwr.
Er mwyn ateb y galw amcan am leoedd, mae'r adroddiad yn manylu ar gynigion i ehangu Ysgol Mynydd Bychan i Ddosbarth Mynediad 1.5, ond nid yw'n bosibl ehangu safle presennol yr ysgol oherwydd cyfyngiadau'r safle.
Yr ateb cychwynnol yw ad-drefnu darpariaeth ysgol bresennol yn yr ardal i gydbwyso'r cyflenwad a'r galw am ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yn yr ardal, a byddai'n ffordd effeithiol ac effeithlon o ddefnyddio adnoddau.
Trwy roi trefniant ar waith lle mae Ysgol Mynydd Bychan yn rhannu ei safle ag Ysgol Gynradd Allensbank yn y lle cyntaf, gellid cyfyngu ar yr effaith ar bob ysgol a darparu ateb lleol priodol, a fyddai'n arwain at greu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol wrth gadw nifer priodol o leoedd cyfrwng Saesneg i ateb y galw o fewn yr ardal ar sail amcanestyniadau poblogaeth a phatrymau defnydd hanesyddol.
Bydd yr adroddiad hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer cynnydd dros dro yn Nifer Derbyn Ysgol Mynydd Bychan wrth ddechrau'r Flwyddyn Dderbyn ar gyfer 2021/2022. Byddai'r trefniant dros dro hwn yn cynyddu nifer y lleoedd o 30 i 45 pe bai angen lleoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg lleol ychwanegol ar gyfer plant yn yr ardal.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'n hanfodol bod unrhywgynigion yn sicrhau bod twf ysgolion yn gynaliadwy, a bod yr effaith andwyol bosibl ar ysgolion eraill yn cael ei lleihau.
Byddai ehangu Ysgol Mynydd Bychan i 1.5 DM yn y lle cyntaf yn darparu nifer priodol o leoedd i ateb y galw gan leihau'r effaith ar ysgolion cyfrwng Cymraeg cyfagos cymaint â phosibl, a byddai'n galluogi gweithredu strwythur dosbarth effeithlon wrth i'r ysgol dyfu. Byddai cam ehangu diweddarach i 2 DM yn cynorthwyo'r Cyngor i wneud cynnydd tuag at dargedau Cymraeg 2050."
Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Cymraeg 2050 sy'n nodi gweledigaeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda'r nod o sicrhau bod 40 y cant o blant (ym mhob grŵp blwyddyn) mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Llwyddodd y Cyngor i sicrhau cyllid gan gynllun Grant Cyfalaf ‘Cynyddu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg' Llywodraeth Cymru gyda'r diben o gefnogi buddsoddiadau cyfalaf sy'n hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a oedd yn cynnwys cynnig i ad-drefnu darpariaeth gynradd yn ardal ganolog Caerdydd ac ehangu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Mae'r Cyngor yn cydnabod bod y system addysg yn elfen allweddol wrth sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg, ac wrth greu siaradwyr newydd. Ers 2012 rydym eisoes wedi cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn sylweddol gan ehangu Ysgol Gymraeg Treganna ac Ysgol Glan Morfa, a darparu adeiladau newydd ar gyfer nifer o ysgolion, gan gynnwys Ysgol Glan Ceubal a sefydlu Ysgol Hamadryad.
"Mae'r Cyngor hefyd wedi ehangu Ysgol y Wern ac wedi cymeradwyo cynigion i ddarparu ysgolion cynradd dwy ffrwd er mwyn gwasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr."
Byddai cynigion ar gyfer ateb hirdymor i gydbwyso lleoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg i wasanaethu'r ardal yn cael eu llunio gan farn ysgolion, rhieni a'r gymuned ehangach fel rhan o'r ymgynghoriad statudol a fyddai'n cael ei gynnal gan y Cyngor.