Back
Partneriaid yn rhybuddio bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu argyfwng Covid

11/12/20

Mae sefydliadau Caerdydd a Bro Morgannwg sydd ar reng flaen yr ymateb i Covid-19 wedi dod at ei gilydd i rybuddio eu bod yn wynebu sefyllfa o argyfwng wrth i nifer yr achosion gofnodwyd o Covid-19 yn y rhanbarth gyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mae'r Heddlu, y Bwrdd Iechyd Prifysgol, Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn pryderu'n fawr am gynnydd sydyn mewn cyfraddau trosglwyddo a chyfraddau phrofion positif yn ogystal â nifer yr achosion.

Mae mwy o bobl yn dal Covid-19 ac mae adnoddau dan bwysau difrifol gyda gweithwyr meddygol proffesiynol o dan bwysau sylweddol.

Mae adnoddau ysbytyau'n cael eu profi a staff yn cael eu gwthio i'r eithaf yn dilyn eu profiad yn wynebu'r pandemig.

Erbyn hyn mae bron i 16,000 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghaerdydd a'r Fro, mae 11 o bobl mewn Unedau Gofal Dwys ar hyn o bryd, ac ar hyn o bryd nid yw 278 o staff meddygol a nyrsio yn gallu gweithio yn y Bwrdd Iechyd am eu bod yn hunanynysu oherwydd Covid.

Mae nifer fawr o swyddogion yr heddlu hefyd yn hunanynysu ar ôl dal y feirws ar sifftiau sy'n gyson yn cynnwys gwasgaru digwyddiadau torfol anghyfreithlon.

Nawr mae'r cyrff sy'n gyfrifol am gadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig yn apelio ar y cyhoedd i fynd i'r afael â'r ymddygiadau sydd wedi rhoi Caerdydd a'r Fro ar lwybr argyfwng.

Ar wahan i gadw ddau fetr ar wahân, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen, mae'n bwysig:

        Osgoi rhannu ceir.

        Gweithio o gartref lle bynnag y bo modd.

        Osgoi rhyngweithio cymdeithasol os oes angen i chi ymweld â man gwaith.

        Osgoi cymdeithasu a chymysgu yng nghartrefi pobl eraill.

        Gwnewch eich siopa Nadolig ar eich pen eich hun.


Mae hefyd yn bwysig hunanynysu a chael prawf os cewch unrhyw symptomau a hunanynysu os yw aelod arall o'r aelwyd yn dangos symptomau.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Ni allai'r cynnydd yn nifer yr achosion rydym yn eu gweld nawr yn Nghaerdydd fod yn fwy amlwg. Mae angen i hyn fod yn rhybudd i bob un ohonom ynghylch difrifoldeb mawr y sefyllfa rydym yn ei hwynebu nawr. Os gwireddir yr amcanestyniadau presennol, yna erbyn wythnos y Nadolig bydd amlder y clefyd yn y gymuned yn arwain at lefel enfawr o drosglwyddiad o fewn teuluoedd ac yn anochel at golli llawer o fywydau. Bywydau nad oes rhaid eu colli.

"Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu nawr, ac nid yn unig drwy gadw at reoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn unig, ond drwy gymryd camau pellach i ddiogelu'r rhai rydym yn bwriadu eu gweld adeg y Nadolig - ein hanwyliaid. Dylem gadw ein cysylltiad â phobl y tu allan i'n cartref i'r isafswm absoliwt nes bod y bygythiad presennol wedi mynd heibio, ond yn enwedig dros y pythefnos nesaf. Gwn y bydd hynny'n boenus i lawer, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ond mae'n bris y mae angen i ni ei dalu nawr, fel y gallwn amddiffyn ein hanwyliaid yn y misoedd i ddod. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn meddwl bod y brechlyn yma felly mae popeth yn mynd i fod yn iawn. Nid yw hynny'n wir. Gallai llawer o bobl farw cyn i'r brechlyn gael ei gyflwyno os na fyddwn yn newid ein hymddygiad nawr, pobl nad oes angen iddynt farw. Aelodau o'ch teulu chi.

"Gyda'n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Heddlu De Cymru, rydym yn gwbl barod ar gyfer y frwydr hon yn erbyn COVID-19. Ond mae'n parhau i fod yn her enfawr, un y byddwn yn ei hwynebu orau os byddwn yn ei hwynebu hi gyda'n gilydd, yn union fel y gwnaethom yn y gwanwyn. Rwy'n gofyn i bob un ohonoch ymateb i'r her honno gyda'ch gilydd. Gadewch i ni atal y lledaeniad, a gadewch i ni gadw Caerdydd, y GIG a'n hanwyliaid yn ddiogel."

Dwedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'n frawychus gweld yr achosion yn codi mor gyflym mewn dim ond saith diwrnod felly mae angen i ni weithredu ar frys os ydym am wyrdroi hyn.

"Mae'n bwysig iawn bod pobl Caerdydd a Bro Morgannwg yn dilyn y canllawiau i leihau'r risg gymaint â phosibl.

"Rydym yn poeni yn fawr iawn bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol ac ysbytyau bellach dan bwysau parhaus oherwydd Covid, ac yn anffodus mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl iawn yn cynyddu. Yn anffodus, rydym yn debygol o weld hynny'n trosglwyddo i fwy o farwolaethau hefyd.

"Er bod gennym frechlyn yr ydym wedi dechrau ei gyflwyno, rhaglen 9 - 12 mis yw hon a bydd yn cymryd peth amser, felly nid nawr yw'r amser i ni fod yn ddiofal. Mae'r feirws yn dal i fod yn gyffredin yn ein cymunedau a'n hysbytyau a thrwy arfer cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb rydym i gyd yn gwneud ein rhan i helpu.

"Byddem yn gofyn i chi geisio aros gartref, peidiwch â chymysgu ag aelwydydd eraill yn ddiangen, gweithiwch gartref os gallwch, ac os yw'n hanfodol mynd allan, gwnewch hynny mewn cyfnodau tawelach. Gall y camau bach hyn ein helpu ni i gyd i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Dwedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i COVID-19: "Mae'r sefyllfa yn Ne Cymru, er nad yw'n gwbl annhebyg i lefydd eraill yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain, yn sefyllfa ddifrifol. Mae trosglwyddo cymunedol a nifer yr achosion a gadarnhawyd yn parhau i godi ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithredu nawr.

"Rydym yn parhau i apelio ar i'n cymunedau ein cefnogi drwy wneud eu rhan i ddilyn y rheolau a helpu i arafu lledaeniad Coronafeirws. Drwy wneud hynny, maent yn lleihau'r risg a achosir i'n swyddogion yn ogystal â'n cydweithwyr ar draws yr holl asiantaethau partner, sydd i gyd yn gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig. Drwy wneud y peth iawn, gallwn oll helpu i ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen - ein GIG yn bwysicaf oll - a helpu i achub bywydau.

"Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae cynnydd pryderus iawn y Coronafeirws yn ein cymunedau wedi effeithio ar blismona. Rydym wedi cynllunio'n helaeth ar gyfer y sefyllfa hon ac rydym wedi sefydlu strwythur rheolaeth pwrpasol drwy gydol dwy don y pandemig er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Mae ffydd gennym yn ein cynlluniau profedig i sicrhau parhad plismona yn ystod cyfnodau o broblemau capasiti neu alw cynyddol, gan gynnwys adleoli swyddogion, i sicrhau y gallwn ymateb i argyfyngau a pharhau i ddiogelu'r rhai sydd ein hangen fwyaf.

"Dylai'r cyhoedd gael eu cyuro gan hyn, ond rwy'n apelio at bawb i beidio â rhoi straen pellach ar ein gwasanaethau rheng flaen sydd eisoes dan bwysau, drwy fethu â chwarae eu rhan i arafu'r lledaeniad."

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb y sefyllfa bresennol. Mae nifer yr achosion a chyfraddau heintio ledled Caerdydd a'r Fro yn codi'n frawychus ac mae'r llwybr rydym nawr yn ei ddilyn yn awgrymu ein bod yn anelu at gyfnod gwaethaf y pandemig. Mae'r heddlu a'r awdurdod lleol yn cael eu tynnu i bob cyfeiriad yn sgil nifer yr achosion o dorri rheolau Covid y mae'n rhaid iddynt ddelio â nhw, tra bod ysbytyau unwaith eto dan bwysau eithafol oherwydd nifer y cleifion.

"Mae'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sefydliadau hyn yn parhau i roi eu hunain mewn perygl yn ystod eu gwaith. Gallai'r risg y maent yn ei hwynebu gael ei lleihau'n fawr pe bai pobl yn dilyn y rheolau ac yn glynnu'n dynnach wrth y canllawiau. Gall hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrifoldeb pawb yw gwneud hynny.

"Er bod cymryd cyfrifoldeb personol o'r pwys mwyaf, mae'r cyfrifoldeb hefyd ar fusnesau i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd sy'n ddiogel rhag Covid. Apeliaf ar bob busnes i adolygu eu harferion, boed hynny ym maes manwerthu, lletygarwch, busnes neu ddiwydiant. Mae ein timau ar gael i roi arweiniad os oes angen. Os na all staff weithio gartref, rhaid iddynt gymryd rhagofalon yn y gweithle ac osgoi unrhyw fath o gyswllt ag eraill.

"Mae pob toriad rheol yn gwneud y sefyllfa'n waeth, ni waeth pa mor fach y gallai ymddangos, felly yn y geiriau cryfaf posibl, byddwn yn annog pawb i lynnu wrth y cyfyngiadau, cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac aros yn ddiogel."