Back
Canolfannau profi newydd ar agor yng Nghaerdydd i ddelio â chynnydd enfawr mewn cyfraddau heintio
Mae Caerdydd yn agor canolfannau profi COVID-19 newydd yn y ddinas ac yn cynyddu capasiti mewn canolfannau presennol er mwyn creu dwy fil o slotiau profi ychwanegol yr wythnos yn dilyn y cynnydd sydyn mewn heintiau COVID-19 ar draws y ddinas.

Mae prifddinas Cymru wedi gweld cyfraddau heintio yn cynyddu 90% dros yr wythnos ddiwethaf i gyrraedd y lefelau uchaf eto yn y ddinas, a gyda'r gyfradd o brofion positif ar 18% mae'n amlwg bod y feirws yn lledaenu drwy'r gymuned gan ei gwneud hi'n anodd iawn ei reoli.

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn annog preswylwyr i fanteisio ar y canolfannau profi newydd a'r gallu cynyddol i archebu prawf os ydynt yn teimlo'n sâl neu'n arddangos unrhyw un o'r symptomau, gan gynnwys colli blas neu arogl, peswch sych parhaus, blinder, tymheredd uchel neu anhawster anadlu.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Rydw i am fod yn glir bod digon o gapasiti yn y system, a dyw hi byth wedi bod yn haws cael prawf. Os ydych chi'n dangos symptomau neu'n amau eich bod wedi dal COVID-19, yna mae dyletswydd arnoch - i’ch hun ac i’ch anwyliaid - i gael eich profi cyn gynted â phosibl. Gan weithio gyda'n partneriaid yn y bwrdd iechyd rydym yn agor canolfannau yn ein cymunedau ac mae gennym ganolfannau profi symudol sy'n mynd i ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion. Gall unrhyw un sydd ar gyflog isel sy'n hunanynysu hefyd wneud cais am arian gan y llywodraeth i helpu i dalu am unrhyw golledion.

"Mae gwneud apwyntiad yn syml, ac mae yna ganolfannau y gallwch gerdded neu yrru iddynt. Rydym ar gam nawr lle mae'r cynnydd yn y niferoedd yn drawiadol. Os na fyddwn yn dilyn y rheolau, gallai ein GIG a'n gwasanaethau gael eu gorlethu dros y Nadolig. Mae'r rhagfynegiadau presennol yn enbyd.

“Mae adnoddau ysbytai'n cael eu hymestyn a staff yn cael eu gwthio i'r eithaf yn dilyn eu profiad ar reng flaen y pandemig. Erbyn hyn mae bron i 16,000 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghaerdydd a'r Fro, mae 11 o bobl mewn Unedau Gofal Dwys ar hyn o bryd, ac nid yw 278 o staff meddygol a nyrsio yn gallu gweithio yn y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn hunanynysu oherwydd COVID. Mae nifer fawr o swyddogion yr heddlu hefyd yn hunanynysu ar ôl cael y feirws ar sifftiau lle mae’n rhaid gwasgaru digwyddiadau torfol anghyfreithlon yn rheolaidd.

"Mae angen i bawb wneud eu rhan nawr i reoli’r feirws. Mae hynny'n golygu dilyn y rheolau a'r canllawiau, ac os ydych yn teimlo'n sâl neu os oes gennych unrhyw symptomau, mynnwch brawf ar unwaith."

Ar hyn o bryd mae tua 16,000 o brofion cymunedol ar gael yng Nghaerdydd bob wythnos i staff y GIG, gweithwyr allweddol rheng flaen a'r cyhoedd. Erbyn dydd Iau 17 Rhagfyr, bydd y capasiti profi yng Nghaerdydd yn cynyddu gan 2,000 yr wythnos gyda mwy o leoedd profi yn dod ar-lein ym mis Ionawr. I gael prawf, archebwch ar-lein yn llyw.cymru/coronafeirws neu ffoniwch 119. Gallwch weld y canolfannau profi sydd ar gael a’r rhai arfaethedig isod.

 

Cyfleuster

Lleoliad

Statws

Safle Profi Torfol: Caerdydd

Stadiwm Dinas Caerdydd, Lecwydd, Caerdydd

Ar waith

Safle Profi Lleol 1: Canol Dinas Caerdydd

Rhodfa’r Amgueddfa, Parc Cathays, Caerdydd

Ar waith

Safle Profi Lleol 2: Bae Caerdydd

Maes Parcio Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW

 

Yn agor dydd Iau 17 Rhagfyr

Safle Profi Lleol 3: Trelái

Maes Parcio, Cyn-Ganolfan Feddygol Parkview, Treseder Way
Caerdydd, CF5 5NU

Yn agor dydd Mercher 16 Rhagfyr

Safleoedd Profi Lleol Ychwanegol: I'w cadarnhau

Rhagwelir y gallai'r safleoedd hyn fod ar gael ym mis Ionawr

Yn cael eu datblygu