Back
Diweddariad COVID-19: 16 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: y gyntaf o ddwy ganolfan brofi am COVID-19 yn agor yng Nghaerdydd heddiw; a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Y gyntaf o ddwy ganolfan brofi am COVID-19 yn agor yng Nghaerdydd heddiw

Agorodd Caerdydd ganolfan brofi am COVID-19 newydd heddiw, y gyntaf o ddwy sy'n agor yn y ddinas yr wythnos hon.

Mae nifer y llefydd yn y canolfannau presennol hefyd yn cynyddu er mwyn cynnig dwy fil yn ychwanegol o slotiau profi yr wythnos, yn dilyn y cynnydd sydyn yn nifer y rhai a gaiff eu heintio gan COVID-19 yn y ddinas.

Mae'r cyfraddau heintio wedi cynyddu gan 90% yn y brifddinas dros yr wythnos ddiwethaf i gyrraedd y lefelau uchaf eto yn y ddinas, a gyda'r gyfradd o brofion positif ar 18% mae'n amlwg bod y feirws yn lledaenu drwy'r gymuned ac yn ei gwneud hi'n anodd iawn ei reoli.

Ac mae nifer yr achosion ymhlith pobl dros 60 oed yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi mwy na dyblu yn y tair wythnos diwethaf, ac mae'n prysur gyrraedd 400 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.

Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau hyn - peswch parhaus a newydd, eich blas neu arogl yn diflannu neu'n newid, tymheredd uchel, - dylech hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith.

I gael prawf, archebwch ar-lein yn  https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19  neu ffoniwch 119.

Mae taliad cymorth hunanynysu ar gael hefyd i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf. Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/taliad-cymorth-hunanynysu/Pages/default.aspx


Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 16.12.20

Ysgol Gynradd Pencaerau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pencaerau. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.  

 

Ysgol Gynradd Meadowlane

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Meadowlane. Mae 27 o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn/Blwyddyn 1 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.  


Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 10 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.  

 

Ysgol Gyfun Glantaf
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gyfun Glantaf. Mae 55 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi'n gysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.  

 

Ysgol Uwchradd Corpus Christi

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Mae 9 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y rhai y cadarnhawyd bod COVID-19 arnnyn nhw.  

 

Ysgol Gynradd Peter Lea

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Peter Lea. Mae 75 o ddisgyblion Blwyddyn 3 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.

 

Ysgol Gynradd Howardian

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Howardian. Mae 59 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 3 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.

 

Ysgol Gynradd Pen-y-Groes.

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pen y Groes. Mae 28 disgybl o Flwyddyn 1 a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.

 

Ysgol Uwchradd Caerdydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 76 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.  

 

Ysgol Gynradd Gladstone

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gladstone. Mae 23 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 2 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos at y sawl y cadarnhawyd bod COVID-19 arno.