Back
Caerdydd yn parhau i fynd i'r afael ag amddifadedd digidol

8/1/2020

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau â'i waith i fynd i'r afael â'r mater o amddifadedd digidol a thros yr ychydig wythnosau nesaf caiff 2,340 arall o ddyfeisiau Chromebook eu dosbarthu i ysgolion er mwyn helpu i ddarparu dysgu ar-lein ac o bell, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Mae hyn yn ychwanegol at y 12,775 o ddyfeisiau digidol newydd a'r 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G newydd eisoes wedi'u darparu i ysgolion ers dechrau'r pandemig. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bu sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu â dysgu o bell tra bod ysgolion ar gau yn flaenoriaeth.

"Ers dechrau'r pandemig mae tîm prosiect pwrpasol wedi gweithio gyda'n hysgolion i adnabod y disgyblion hynny sydd o dan anfantais ddigidol er mwyn sicrhau bod ganddynt y ddarpariaeth ddigidol briodol fel y gallant barhau â'u dysgu gartref.

"Mae cyflwyno'r dyfeisiau yn raddol yn parhau o hyd, gan gynnwys cymorth i gael mynediad at wi-fi. Mae'r cynllun hwn yn hyrwyddo strategaeth hirdymor Caerdydd i roi'r cysylltedd priodol i bob plentyn, yn ystod ac ar ôl y cyfnod cloi."

Os nad oes gan eich plentyn fynediad at ddyfais TGCh briodol neu fynediad at y rhyngrwyd gartref eto, rhowch wybod i'ch ysgol a all wneud y trefniadau priodol i chi gael benthyg dyfais neu osod mynediad at y rhyngrwyd.

Mae'r cynllun wedi ei gyflawni drwy gyllid gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu cael mynediad at ddysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.