Back
Y wybodaeth ddiweddaraf am gasgliadau gwastraff

10/1/2020

Mae ein timau wedi bod yn gweithio dros y penwythnos i glirio strydoedd o ddeunyddiau ailgylchu olaf y Nadolig, ac rydym am ddiolch i chi am eich amynedd.

Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae rhai casgliadau gwastraff gwyrdd wedi'u methu.  Os yw eich gwastraff gardd eto i'w gasglu'r wythnos hon, a fyddech gystal â'i gyflwyno ar y stryd nes iddo gael ei glirio.

Rydym yn gobeithio cwblhau'r casgliadau yr wythnos hon ond bydd ein timau'n gweithio eto ddydd Sadwrn nesaf os bydd angen, ar gyfer unrhyw ardaloedd sy'n weddill. 

Ni fyddwn yn defnyddio camau gorfodi mewn cysylltiad â chyflwyno gwastraff yn ystod y cyfnod hwn pan fo gwastraff mewn rhai ardaloedd eto i'w gasglu. Fodd bynnag, ni ddylai preswylwyr gyflwyno gwastraff os yw'r stryd yn glir ac nid hwnnw yw eu diwrnod casglu. 

Mae ein timau yn gweithio gyda llai o weithwyr nag arfer ar hyn bryd a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae croeso i chi roi gwybod i ni am unrhyw broblemau a phryderon gwahanol i'r rhai a nodir uchodtrwy App Cyngor Caerdydd neu drwy ffonio C2C ar 029 20872087.